Taith Opera Celf Stryd yn cyrraedd pen ei daith yng Nghasnewydd
Ar ddiwedd mis Mawrth, roeddem yn falch iawn o fynd i Ŵyl Live Act Fringe yng Nghasnewydd, gan gloi ein taith Opera Celf Stryd Gymreig – ac roedd hi’n noson i’w chofio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Music Theatre Wales wedi cyflwyno dau waith unigryw a thrawiadol, Out of Time a Rahmat, mewn gwyliau ledled Cymru. O ganolfannau dinesig prysur i ŵyliau awyr agored, mae’r operâu hyn wedi cyffwrdd â chynulleidfaoedd mewn ffyrdd arbennig a chofiadwy.
Erbyn hyn, mae dros 750 o bobl wedi profi’r gwaith, ac mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol ar hyd y daith – ac nid oedd Casnewydd yn eithriad. Profwch flas o ymateb y gynulleidfa o’r noson yn y fideo isod.
Roedd yn bleser cydweithio ag Operasonic a Tin Shed Theatre Co i gyflwyno’r darnau hyn yn Newport Live Act Fringe. Ewch i’w gwefannau i weld y prosiectau cyffrous sydd ar y gweill ganddynt.
Rydym hefyd yn falch iawn o rannu ein bod wedi comisiynu dau Opera Celf Stryd newydd sbon, ac edrychwn ymlaen yn fawr at rannu mwy o fanylion yn fuan. Fel arfer, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi tanysgrifio i’n cylchlythyr er mwyn cael y newyddion diweddaraf yn gyntaf.
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth ychwanegol i’r daith hon.









