Un Rhodd, Dwywaith yr Effaith! Helpwch ni i gyrraedd ein targed!
Fel y gwyddoch, rydym wedi’n henwebu ar gyfer Gwobr Biennale Fedora am ein prosiect Future Directions: Trebiwt 2025–26, prosiect sy’n gwthio ffiniau’r hyn y gall opera fod a phwy sy’n ei greu.
Gall dy gymorth di wneud pob gwahaniaeth!
Fel rhan o’n henwebiad, rydym yn cynnal ymgyrch codi arian i helpu i ddod â’r prosiect hwn yn fyw, ac o heddiw, Dydd Mawrth Rhoi, bydd eich rhoddion yn mynd ymhellach fyth! Diolch i’n hariannwyr cyfatebol, Variations International a BPI Learn, bydd pob £1 a roddwch yn cael ei DDWBLU – heb unrhyw gost ychwanegol i chi!
Beth yw Dydd Mawrth Rhoi?
Mae Dydd Mawrth Rhoi yn symudiad rhyngwladol sy’n dathlu haelioni ac yn annog pobl i gefnogi’r achosion sydd yn agos at eu calonnau. Dyma gyfle perffaith i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth, gyda y bydd hyd at €1000 gan bob ein hariannwyr cyfatebol ar gael i helpu dod â’r prosiect ysbrydoledig hwn yn fyw.
Gwobrau Arbennig ar Gael – Perffaith ar gyfer y Nadolig!
I ddweud diolch am eich haelioni, rydym wedi paratoi gwobrau gwych am eich rhoddion a fydd yn cael eu hanfon allan ar ôl i’r ymgyrch ddod i ben. O gynnwys digidol unigryw i nwyddau arbennig, bydd y rhain yn gwneud anrhegion Nadolig ystyrlon a chofiadwy i’r rhai sy’n caru’r celfyddydau yn eich bywyd.
Sefydlu Cysylltiad Parhaol yn Nhrebiwt
Mae Future Directions: Butetown 2025–26 yn dathlu amrywiaeth, creadigrwydd, a chydweithredu, gan ail-lunio opera trwy straeon a diwylliant bywiog Butetown. Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch y fideo sy’n archwilio’r prosiect ysbrydoledig hwn yma.
Cliciwch yma i roi nawr i wneud gwahaniaeth go-iawn.