Yn cyflwyno Yasuke: opera newydd ar y gweill
Yn cyflwyno Yasuke: opera newydd ar y gweill Mae MTW yn hynod o falch i gyhoeddi ein bod yn datblygu opera wreiddiol newydd gyda’r cyfansoddwr Renell Shaw yn seiliedig ar stori Yasuke.
Cychwynna stori Yasuke yn yr 16eg ganrif, pan gafodd ei gymryd o Affrica i Japan. Yno, ymddangosodd ym myd y daimyō pwerus Oda Nobunaga, gan godi i fod yn rhyfelwr dibynadwy ac yn un o’r ffigurau mwyaf unigryw yn hanes Japan.
Mae’n stori sy’n teimlo bron yn amhosibl, ac eto mae’n wir. Eistedda ar groesffordd hanesion byd-eang sydd wedi’u siapio gan ddadleoli, ffydd, pŵer a chydgyfarfyddiadau diwylliannol, ac mae’n parhau i atseinio heddiw.
Nid ail-adrodd hanes yn unig mae’r opera hon, ond creu portread seicolegol ac ysbrydol. Mae’n archwilio hunaniaeth gan ystyried y gost o gael eich gweld heb gael eich deall. Fel dyn Du yn symud drwy fydoedd a oedd yn ei ddiffinio cyn iddo allu diffinio ei hun, mae taith Yasuke yn dod yn fyfyrdod ar weladwyedd, arwahanrwydd a’r archwiliad am ryddid go-iawn ar ôl bywyd wedi’i ffurfio gan drais.
Wedi’i gosod yn erbyn tirwedd wleidyddol anwadal Japan, caiff y stori ei gyrru gan y perthnasau llawn tensiwn rhwng Yasuke, Nobunaga a Mitsuhide, pob un yn llywio pŵer, cred a thynged o safbwyntiau gwahanol. Ar yr un pryd, mae’r gwaith yn tynnu ar gof ysbrydol Affrica, gan wreiddio Yasuke mewn byd mewnol sy’n bodoli y tu hwnt i’r grymoedd sy’n ceisio ei lunio.
Mae Renell Shaw yn gyfansoddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill Gwobr Ivor Novello, ac sy’n gweithio ar draws theatr, cyfansoddi a cherddoriaeth gyfoes. Mae ei waith yn dod â sain, stori a chof diwylliannol ynghyd, gan archwilio hunaniaeth a phrofiadau bywyd. Mae ei waith theatr yn cynnwys cynyrchiadau yn Shakespeare’s Globe, y Royal Court a Brixton House, ochr yn ochr â chydweithio ag artistiaid fel Rudimental, Anne-Marie a Nitin Sawhney. Mae hefyd yn un hanner o’r ddeuawd dawns 2fox. Yn ystod 2026, fe yw Artist Preswyl King’s Place fel rhan o Memory Unwrapped. Yasuke yw ei opera gyntaf, gan ymestyn ei ymarfer i ddrama gerddorol ffurf hir.
Pam Yasuke, pam nawr?
Mae stori Yasuke yn boblogaidd ar draws diwylliant byd-eang.
Yn ddiweddar, mae wedi ymddangos fel un o brif gymeriadau Assassin’s Creed Shadows, tra bod gweithiau fel Afro Samurai wedi ail-ddychmygu ei etifeddiaeth mewn ffyrdd gwahanol. Ar yr un pryd, bu adfywiad ehangach o ddiddordeb yn y cyfnod hwn o hanes Japan, gyda chyfresi fel Shōgun yn dod â byd y samurai i gynulleidfaoedd byd-eang.
Mae’r opera hon yn eistedd o fewn y dirwedd honno ond yn hytrach na chanolbwyntio ar chwedloniaeth, mae’n tynnu ar realiti emosiynol, seicolegol ac ysbrydol yr unigolyn sydd wrth ei graidd.
Archwilio’r hanes
Fel rhan o ddatblygu’r gwaith, cawsom wahoddiad yn ddiweddar i ymweld â’r Amgueddfa Brydeinig ar gyfer digwyddiad yn gysylltiedig â’r arddangosfa Samurai ac Assassin’s Creed Shadows, gêm sydd wedi gwerthu miliynau o gopïau ledled y byd.
Tra yno, bu Renell yn siarad gyda chyd-guradur yr arddangosfa, Joe Nickols, am Yasuke a’r byd y bu’n byw ynddo.
Roedd hyn yn cynnig ffordd i fynd i mewn i’r hanes sy’n mynd y tu hwnt i ffeithiau cofnodedig, gan agor cwestiynau ynghylch safbwynt, naratif a sut mae straeon fel un Yasuke yn cael eu hadrodd a’u cofio.
Creu’r opera
Law yn llaw â’r ymchwil hwn, mae’r gwaith yn dechrau cymryd siâp yn gerddorol.
Ym mis Rhagfyr, bu Renell yn gweithio gyda cherddorion o Sinfonia Cymru ochr yn ochr ag offerynnau taro Affricanaidd ac Asiaidd, ffliwtiau traddodiadol Japaneaidd a gitâr drydan yn Aberystwyth, mewn gweithdy cerddorfaol a rhannu cyhoeddus yn archwilio deunydd ar gyfer yr opera.
Yn hytrach na dim ond cyfuno traddodiadau cerddorol, mae’r gwaith yn canolbwyntio ar adeiladu byd sain sy’n adlewyrchu’r tensiwn a’r deuoliaeth yng nghroestoriad profiad Yasuke – rhwng diwylliannau, hunaniaethau a chyflyrau mewnol. Mae’r gerddoriaeth yn symud rhwng byd allanol pŵer a gwrthdaro a gofod mwy agos, mewnol sydd wedi’i siapio gan gof ac ysbryd.
