Yr Artist a’r Archif
Dydd Iau 11 Medi yn Llyfrgell Treorci | 17:00 – 18:15
Yn dilyn hyn, cinio ysgafn cyn y perfformiad Ein Cân, Ein Stori yn y Parc a’r Dâr am 19:30
Ymunwch â ni am sgwrs fyw am rôl yr artist a’r gwneuthurwr ffilm mewn cymuned, a’r moeseg sy’n dod gyda defnyddio delweddau a chyfweliadau o bobl – weithiau flynyddoedd wedi i’r recordiadau gael eu gwneud.
Pwy biau’r archif?
Beth yw’r cyfrifoldeb sydd ar yr artist heddiw wrth weithio gyda deunydd archifol?
Wedi’i gynnal yn Llyfrgell Treorci, byddwn yn cyflwyno trafodaeth banel gyda:
- Margaret Dickinson – Un o’r gwneuthurwyr ffilm gwreiddiol Women of the Rhondda – ffilm ffeministaidd gynnar o 1971 a roddodd olau newydd ar fywydau menywod lleol
- Darren Macey o Barc Treftadaeth y Rhondda
- Harriet Fleuriot – gwneuthurwraig ffilm leol, gan gynnwys Interior Windows sy’n cynnwys cyfweliadau â menywod lleol
- Nick Kelland o Lyfrgell Treorci
- Kamalagita Hughes – casglwraig ac adroddwraig straeon lleol
The Artist and the Archive – Mynediad AM DDIM
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly rhowch wybod i Michael McCarthy ar michael@musictheatre.wales os hoffech chi fynychu.
