Newyddion a Chyfleoedd
Mae cynhyrchiad MTW o VIOLET wedi ei enwebu ar gyfer Gwobrau’r Southbank Sky Arts
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Violet wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Opera yng Ngwobrau’r Southbank Sky Arts 2023.
Mae Future Directions – prosiect Music Theatre Wales – wedi derbyn arian o Gronfa Atsain Anthem
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Music Theatre Wales wedi derbyn cyllid Atsain o Anthem, Gronfa Gerdd Cymru, yn 2023 i gefnogi ein prosiect Future Directions – sy’n gwahodd pobl ifanc i greu eu hopera ddigidol eu hunain gyda chymorth gan artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol a chydweithredol.
Cynhyrchiad Music Theatre Wales o VIOLET yn cael ei enwebu yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol
Mae cynhyrchiad Music Theatre Wales a Britten Pears Arts o’r opera Violet wedi derbyn ail enwebiad am wobr o fewn cyfnod o wythnos. Enwebwyd Violet yn y categori Premiere Byd ar gyfer y Gwobrau Opera Rhyngwladol 2022, yr unig gwmni o’r DU i gael ei enwebu yn y categori hwn.
Mae Violet gan Music Theatre Wales wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Theatr y DU
Wedi’i gyfansoddi gan Tom Coult gyda libretto gan Alice Birch, cafodd y cynhyrchiad ei ohirio yn sgil y pandemig COVID-19, ond pan gyrhaeddodd y llwyfan o’r diwedd derbyniodd adolygiadau gwych gan y wasg ledled y DU.
Mae comisiynau diweddaraf MTW yn mynd yn rhyngwladol
Mae dau gynhyrchiad newydd o Violet wedi eu cyhoeddi o fewn blwyddyn i gynnal perfformiad premiere y gwaith – a hynny yn Ulm, yr Almaen, ac ym Mharis.
Newyddion am ein Cynyrchiadau
Mae ein prosiect Future Directions cyntaf wedi gorffen gyda chwblhau’r ail gyfnod preswyl yng Nghaerdydd. Mae’r bobl ifanc fu’n rhan o’r prosiect wedi creu darn craff, dychmygus o’r enw ‘The Things That Go Unnoticed’.
Dau o gomisiynau Music Theatre Wales yn ennill gwobrau o fewn un wythnos
Mae dau waith a gomisiynwyd gan Music Theatre Wales wedi ennill gwobrau yr wythnos hon: The Jollof House Party Opera gan Tumi Wiliams a Sita Thomas + AMAZON by gan Alex Ho ac Elayce Ismail
Harrison Birtwistle – Adlewyrchiad personol gan Michael McCarthy
Harrison Birtwistle, a fu farw ar 18 Ebrill 2022, oedd y ffigur cawraidd ym maes cerddoriaeth newydd yn y DU am dros 50 mlynedd, a’r cyfansoddwr oedd yn deall orau, ac yn herio fwyaf, yr hyn allai drama gerddorol fod yn y G20 a’r G21.
Mae Music Theatre Wales yn lansio FUTURE DIRECTIONS ynghyd â dau o grëwyr-cerddoriaeth newydd
Rhaglen i bobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – un wahanol i’r arfer, lle bydd pobl ifanc yn gweithio mewn cydweithrediad â Chrëwyr-Cerddoriaeth proffesiynol, gan ddysgu oddi wrth ac ysbrydoli ei gilydd i archwilio beth mae opera a theatr gerddoriaeth yn ei olygu iddynt hwy ac i’w cymunedau.
Mae Violet, opera newydd gan y dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult, yn cael ei pherfformiadau cyntaf yr haf hwn, gyda 6 pherfformiad ledled y DU
Mae’r dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult ymhlith y lleisiau mwyaf grymus yn eu meysydd unigol, ac mae eu hopera gyntaf, a ddatblygwyd yn Snape Maltings fel rhan o’r cynllun Jerwood Opera Writing Programme, yn opera ar gyfer ac am y cyfnod presennol.
