Newyddion a Chyfleoedd
Mae Music Theatre Wales yn lansio FUTURE DIRECTIONS ynghyd â dau o grëwyr-cerddoriaeth newydd
Rhaglen i bobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – un wahanol i’r arfer, lle bydd pobl ifanc yn gweithio mewn cydweithrediad â Chrëwyr-Cerddoriaeth proffesiynol, gan ddysgu oddi wrth ac ysbrydoli ei gilydd i archwilio beth mae opera a theatr gerddoriaeth yn ei olygu iddynt hwy ac i’w cymunedau.
Mae Violet, opera newydd gan y dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult, yn cael ei pherfformiadau cyntaf yr haf hwn, gyda 6 pherfformiad ledled y DU
Mae’r dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult ymhlith y lleisiau mwyaf grymus yn eu meysydd unigol, ac mae eu hopera gyntaf, a ddatblygwyd yn Snape Maltings fel rhan o’r cynllun Jerwood Opera Writing Programme, yn opera ar gyfer ac am y cyfnod presennol.
Mae Music Theatre Wales yn cefnogi gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis, yn seiliedig ar leisiau Cwm Rhondda
Mae Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta wedi bod yn cydweithio i gefnogi datblygiad gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis a Simon Clode, y gwneuthurwr ffilmiau ac artist fideo o Gaerdydd.
Mae Music Theatre Wales yn dathlu 40 mlynedd o opera gyfoes yn 2022
Mae eleni’n nodi 40 mlynedd ers i’r Cardiff New Opera Group – a fyddai, yn ddiweddarach, yn datblygu’n Music Theatre Wales – roi eu perfformiad cyntaf. Y darn oedd ‘The Lighthouse’ gan Peter Maxwell Davies.
