Yn galw crewyr ifanc ar gyfer Cyfeiriadau’r Dyfodol 2025!

- Ydych chi eisiau creu cerddoriaeth neu ffilm, canu, cyfarwyddo neu berfformio?
- Ydych chi rhwng 16–25 oed, yn byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf?
- Hoffech chi weithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol ochr yn ochr â phobl ifanc eraill i greu opera ddigidol newydd?
Cofrestrwch ar gyfer ein preswyliadau nesaf yma.
CYFEIRIADAU’R DYFODOL yw rhaglen i bobl ifanc sy’n dod ag unigolion niwronodweddiadol a niwroamrywiol ynghyd – gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth rhwng 16 a 25 oed. Mae’n wahoddiad i greu dy stori dy hun drwy gerddoriaeth ac i lunio opera ddigidol newydd.
Cyfeiriadau’r Dyfodol yw Cwmni Ifanc Music Theatre Wales – rhaglen barhaus sy’n greiddiol i’n gwaith. Ein nod yw creu opera ddigidol sydd gan, gyda, ac ar gyfer pobl ifanc.
Beth yw Opera Ddigidol? Gall fod yn unrhyw beth rwyt ti’n gallu ei ddychmygu! Mae’n cyfuno cerddoriaeth, canu, sgriptio, perfformio a ffilm i adrodd stori sydd o bwys i ti.
Caiff ei greu i’w gwylio ar sgrîn – ar ffon, gyfrifiadur neu yn y sinema (rydym eisoes wedi dangos darnau o Gyfeiriadau’r Dyfodol mewn sinemâu ac mewn gwyliau ffilm) – gan gynnig profiad cwbl ddigidol. Ti sy’n creu y rheolau.
Eleni, mae MTW yn dod â Chyfeiriadau’r Dyfodol i Rondda Cynon Taf. Dros ddau weithdy creadigol tri diwrnod yr un, bydd y Cwmni Ifanc yn cydweithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol, gan gyfuno stori, cerddoriaeth, perfformiad a ffilm i greu opera newydd sy’n adlewyrchu eu profiadau, eu syniadau a’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud – adrodd straeon drwy gerddoriaeth mewn ffurf ddigidol.
“Roedd yn gyfle anhygoel i archwilio a deall ein gwahaniaethau – yn ein bywydau bob dydd ac yn greadigol. Roedd hefyd yn gyfle gwych i weld sut allwn ddod â’n gwahaniaethau at ei gilydd i greu rhywbeth hardd a darganfod gwirioneddau cyffredin.” — Cyn-gyfranogwr Cyfeiriadau’r Dyfodol


Dyddiadau’r Preswyliadau Creadigol
Bydd y preswyliadau creadigol yn fan lle bydd y Cwmni Ifanc, gyda chefnogaeth y tîm creadigol proffesiynol, yn rhannu syniadau, dyfeisio, datblygu a chreu’r opera ddigidol.
Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor yn Theatr y Parc & Dare, Treorci, fel a ganlyn:
- Dydd Gwener 25 Ebrill 2025
- Dydd Mawrth 27 – Dydd Iau 29 Mai 2025
Rhwng y cyfnodau preswyl, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i barhau â’u taith greadigol drwy rannu syniadau, barddoniaeth a cherddoriaeth gyda gweddill y Cwmni Ifanc a’r tîm creadigol.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau creadigol ar-lein rhwng y gweithdai, yn ogystal ag un diwrnod wyneb yn wyneb ar Ddydd Gwener 25 Ebrill 2025 (hefyd yn Theatr y Parc & Dare).
Perfformiad Cyntaf a Chyflwyniad
Rydym yn gyffrous iawn bod perfformiad cyntaf yr opera ddigidol eleni’n digwydd o flaen cynulleidfa fyw!
Bydd y dangosiad cyntaf yn rhan o gyngerdd dathliadol sy’n dwyn ynghyd cerddoriaeth newydd o raglenni artistig MTW. Bydd hyn yn digwydd ar:
Dydd Iau 11 Medi 2025
Prif Awditoriwm, Theatr y Parc & Dare
Yn dilyn hyn, bydd yr opera yn cael ei chyflwyno fel un o brif gynyrchiadau MTW ar ein gwefan, i’w rhannu ymhell ac agor drysau i gynulleidfaoedd newydd – gan chwilio am ffyrdd ffres i synnu a chyffroi’r rhai sy’n caru ein gwaith eisoes.
Y Tîm Creadigol
Dewch i gwrdd â’r tîm anhygoel o hwyluswyr creadigol y byddwch yn gweithio gyda nhw:

Jain Boon Hwylusydd Creadigol, Cyfarwyddwr a Dramaturg

Llio Evans Canwr ac Hwylusydd Lleisiol

Tom Elstob Gwneuthurwr Cerddoriaeth

Redbrck Gwneuthurwyr Ffilm
Ni Angen Ti!
Fel gyda’n holl waith, mae Cyfeiriadau’r Dyfodol yn brosiect sy’n dathlu cynhwysiant ac amrywiaeth, ac rydym yn croesawu pobl ifanc 16–25 oed o bob cefndir yn gynnes.
Caiff y rhaglen ei chyflwyno mewn partneriaeth â Theatr Hijinx – un o gwmnïau theatr gynhwysol blaenllaw Ewrop, sy’n gweithio gydag artistiaid niwroamrywiol, ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth ar lwyfan ac ar y sgrîn.
Un o brif nodweddion Cyfeiriadau’r Dyfodol yw’r modd y mae’n dod â phobl ifanc gyda a heb anghenion ychwanegol ynghyd, gan weithio fel un drwy gyfuniad o stori, cerddoriaeth, perfformiad a ffilm – adrodd straeon drwy gerddoriaeth mewn ffurf ddigidol.
“Roedd y cydbwysedd rhwng gwaith creadigol y bobl ifanc a’r tîm yn dda – roedd y gwaith a wnaethom ni fel parhad o’u gwaith nhw. Roedd hyn yn teimlo’n iawn… Doedd hi byth yn ‘Ni a Nhw’, roedden ni i gyd yn gweithio fel un.” — Cyn-aelod o Dîm Creadigol Cyfeiriadau’r Dyfodol