Dwy Swydd Dan Hyfforddiant i Artistiaid sy’n dod i’r Amlwg ac sy’n Byw yn Rhondda Cynon Taf
Lawrlwythwch y pecyn swydd cyfan yma.
Mae MTW yn cynnig dwy swydd dan hyfforddiant ar sail llawrydd fel rhan o’n rhaglen Cyfeiriadau’r Dyfodol yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Nod Cyfeiriadau’r Dyfodol yw cefnogi cwmni ifanc i greu Opera Ddigidol newydd a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf mewn premiere byw ym Mharc a’r Dâr ym mis Medi 2025. Bydd yn cael ei gyflwyno ar-lein wedyn fel cynhyrchiad gan Music Theatre Wales.
Rydym yn chwilio am unigolion dros 18 oed sydd â diddordeb a brwdfrydedd i ddysgu mwy am greu straeon cerddorol newydd gyda grŵp niwroamrywiol o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer y rolau canlynol:
- Hyfforddai Drama – gan weithio ochr yn ochr â’r Hwylusydd Prosiect, Cyfarwyddwr a Dramatwrg, Jain Boon, i gefnogi’r cwmni ifanc wrth iddynt ddatblygu eu stori eu hunain, creu’r testun a’r symudiadau, a chydweithio gyda gweddill y tîm i greu opera ddigidol.
- Hyfforddai Cerddoriaeth – gan weithio gyda’r cyfansoddwr Tom Elstob i gefnogi’r cwmni ifanc i greu’r gerddoriaeth ar gyfer yr opera ddigidol.
- Hyfforddai Gwneuthuriwr Ffilm – gan weithio gyda’r gwneuthurwyr ffilm Redbrck i gefnogi’r cwmni ifanc wrth greu’r opera ddigidol, ei ffilmio a’i olygu.
- Bydd pob Hyfforddai yn derbyn ffi o £1,000 (ynghyd â threuliau rhesymol a gytunwyd ymlaen llaw) i gymryd rhan mewn 2 breswyliad creadigol ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025, yn ogystal â nifer resymol o sesiynau cysylltu rhyngddynt.
Am fanylion llawn am y swyddi hyfforddi hyn, ac i ddysgu sut i wneud cais, darllenwch y pecyn swydd cyfan yma.
- Dyddiad Cau: Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024, 12 canol dydd
- Cyfweliadau Anffurfiol: Wythnos yn dechrau 16 Rhagfyr 2024
- Penderfyniadau: 23 Rhagfyr 2024
Mae MTW wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal ac i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan ystod ehangaf o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i’w cyfrannu i’n sefydliad. Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, rydym yn cynnig cynllun cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer y swydd sydd ag anabledd, yn niwroamrywiol neu’n bobl o leiafrifoedd ethnig.
Er mwyn sicrhau bod ein proses gyfweld mor hygyrch â phosibl, byddwn yn darparu’r cwestiynau cyfweld a’r manylion am fformat y cyfweliad i bob ymgeisydd ymlaen llaw.
Cefnogir MTW gan Gyngor Celfyddydau Cymru.