Gweithiwch Gyda Ni: Cynhyrchydd Cymunedol
Mae Music Theatre Wales (MTW) yn chwilio am Gynhyrchydd Cymunedol i gefnogi ein rhaglen gwaith creadigol ym Nhrebiwt a Threlluest. Rydym angen rhywun sy’n benderfynol ar ddod â phobl o’r cymunedau hyn at ei gilydd a meithrin eu potensial; rhywun a fydd yn grymuso pobl o bob oedran i ymuno â ni i archwilio beth all opera fod, a beth ddylai opera fod, o fewn cymdeithas heddiw – fel cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, hwyluswyr a chrewyr.
Efallai eich bod yn hwylusydd profiadol, trefnydd cymunedol neu wedi gweithio’n flaenorol yn trefnu neu hyrwyddo digwyddiadau. Yr hyn sy’n bwysig, yw eich bod yn gyffrous am y syniad o symbylu pobl i ddod ynghyd yn eu cymuned, datblygu eu creadigrwydd, ysgwyd y sector celfyddydol, a dod ag opera yn ôl i gysylltiad â mwy o bobl.
Cyflog – £26,100 cyfanswm ffi’r contract (sy’n cyfateb i £210 y dydd)
Oriau – Tua 11 awr neu 1.5 diwrnod yr wythnos (i’w weithio’n hyblyg)
Lleoliad – Hyblyg a hybrid
Yn debygol o fod wedi’i leoli ym Mhafiliwn Grangetown a Chanolfan Diwylliant a’r Cyfryngau Loudoun (CMC), gyda rhywfaint o waith yn swyddfeydd MTW yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, yn ogystal â gwaith o gartref y deiliad. Cytundeb – 21 mis – Awst 2025 i Ebrill 2027
Dyddiad Cau – Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Cyfweliadau – Dydd Llun 17 + Dydd Mawrth 18 Mehefin 2025
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn
Lawrlwythwch ddisgrifiad swydd sain
Lawrlwythwch Ddisgrifiad Swydd Hawdd ei Ddarllen