Mae MTW yn chwilio am grewyr cerddoriaeth i gydweithio â phobl ifanc i greu opera ddigidol newydd
Mae’r fanyleb llawn ar gyfer y swydd a’r person, ynghyd â manylion pellach am amserlen y prosiect, i’w gael yma: Pecyn Swydd Llawn
Rydym yn chwilio am grewyr cerddoriaeth i ymuno â’n rhaglen Cyfeiriadau’r Dyfodol i weithio yn RCT ar sail lawrydd o fis Medi 2024 i Orffennaf 2025. Mae’r rôl wedi’i chynllunio ar gyfer cerddorion o unrhyw oedran gyda brwdfrydedd i gydweithio, ac rydym yn awyddus i groesawu pobl sydd wedi profi rhwystrau yn eu gyrfaoedd. Nid ydym yn chwilio’n benodol am gerddorion sydd â phrofiad o opera, theatr gerddorol neu gerddoriaeth glasurol – rydym yn hoffi gweithio gyda chreadigion sy’n awyddus i archwilio adrodd straeon mewn cerddoriaeth drwy unrhyw genre cerddorol ac mewn ymateb i’r gerddoriaeth a’r testun a grëir gan y bobl ifanc.
Am MTW a Cyfeiriadau’r Dyfodol
Mae MTW eisiau bod yn rym dros newid: i herio canfyddiad pobl o opera trwy gydweithio ag artistiaid newydd i opera a thrwy ddychmygu ffyrdd eraill o’i chreu. Credwn os ydym yn herio ein dealltwriaeth ein hunain o opera, gallwn brofi ei bod yn ffurf gelfyddydol i bobl o bob rhan o gymdeithas heddiw.
Yn awr yn ei drydedd flwyddyn, Cyfeiriadau’r Dyfodol yw rhaglen pobl ifanc MTW sy’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf fynegol bwerus i bobl o bob cefndir a hunaniaeth. Gan weithio mewn cydweithrediad ag artistiaid proffesiynol, bydd grŵp o bobl ifanc, niwroamrywiol rhwng 16 a 25 i ddyfeisio a chreu opera ddigidol newydd, gan archwilio eu syniadau a dysgu oddi wrth ac yn ysbrydoli ei gilydd a’r artistiaid cymorth. Cyflwynir y prosiect a’r opera ddigidol yn ddwyieithog yn Saesneg/Cymraeg.
Sut mae’r prosiect yn gweithio?
Cynhelir gweithdai recriwtio rhwng Medi a Rhagfyr 2025. Gan weithio gyda’n partneriaid prosiect, byddwn yn cyfarfod ac yn gweithio gyda phobl ifanc i roi blas iddynt ar y prosiect.
Mae rhan greadigol y prosiect rannu rhwng dwy breswylfa 3-diwrnod, un ym mis Chwefror 2025 ac un ym mis Mai 2025, mewn lleoliad ardal RCT. Rhwng y preswylfeydd, bydd MTW yn cynnal sesiynau Zoom rheolaidd i barhau â’r broses greadigol ac adeiladu ar syniadau o’r breswylfa gyntaf. Byddwn hefyd yn darparu sianel Slack lle gall y tîm creadigol a’r cyfranogwyr gyfathrebu a rhyngweithio, gan rannu eu syniadau creadigol a datblygu’r cysyniad.
Bydd y prosiect yn dod i ben gyda premiere byw o’r opera ddigidol yn Theatr Parc & Dare, Treorci ar 11 Medi 2025. Bydd yr opera ddigidol hefyd yn cael ei rhyddhau ar wefan a sianel YouTube MTW ac yn ffurfio rhan o brif raglen artistig MTW.
Rôl y creuwr cerddoriaeth
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai recriwtio, gan weithio gyda phobl ifanc â diddordeb i archwilio creu cerddoriaeth gyda’i gilydd gan gynnwys canu a’u hannog i gymryd rhan yn y broses greadigol brifol.
Yn ystod y brif broses greadigol, byddwch yn cefnogi ac yn cydweithio â’r bobl ifanc i greu opera ddigidol wreiddiol. Gallwch weld y ddwy opera ddigidol flaenorol ar ein gwefan.
Yn ystod y ddwy breswylfa, bydd y gwaith yn cael ei recordio gennych chi a chan wneuthurwr ffilmiau mewn cydweithrediad â’r bobl ifanc a gweddill y tîm creadigol.
Fel prosiect wedi’i seilio ar opera, byddwch yn dwyn ynghyd yr holl syniadau cerddorol i ffurfio gwaith parhaus o adrodd straeon mewn cerddoriaeth, gan alw ar eich sgiliau cyfansoddi a chydweithio.
Bydd y broses olygu derfynol yn cael ei chyflawni gennych chi a’r gwneuthurwr ffilmiau, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwr MTW. Bydd y gwaith newydd yn cael ei gyflwyno fel cynhyrchiad MTW ar ein gwefan ac yn ysbrydoli ein gwaith yn y dyfodol gan gynnwys prosiectau gyda phobl ifanc, cefnogi ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd yng Nghymru, a hyrwyddo creadigrwydd pobl ifanc o Gymru.
Pwy all ymgeisio?
Nid oes angen i chi fod yn gerddor clasurol i weithio gyda ni – mewn gwirionedd rydym yn gyffrous iawn eich bod chi efallai ddim yn gerddor clasurol, ac eisiau cymysgu gwahanol draddodiadau, megis rap neu werin yn ogystal â hyfforddiant clasurol. Rydym yn credu mewn datblygu dyfodol amrywiol o gerddoriaeth yng Nghymru. Beth bynnag yw’r gerddoriaeth rydych chi’n ei greu, dylech fod yn frwd dros eich creadigrwydd ac yn awyddus i ddatblygu.
Dylech wedi bod yn creu cerddoriaeth ers lleiafswm o 2 flynedd. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn gwrs addysg neu hyfforddiant, swydd neu rôl wirfoddol. Byddwch yn gallu dangos eich bod wedi ymrwymo’n barhaus i greu eich cerddoriaeth eich hun. Nid oes angen i chi fod â phrofiad hwyluso blaenorol, ond gallai fod yn ddefnyddiol.
Rydym am glywed gan amrywiaeth eang o grewyr cerddoriaeth, gan gynnwys unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y gymuned opera a’r celfyddydau neu sydd wedi cael eu hallgau. Efallai eich bod o gefndir cymdeithasol-economaidd is ac wedi wynebu rhwystrau a heriau wrth geisio dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.
Mae MTW wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan yr ystod ehangaf o gefndiroedd, gyda gwahanol sgiliau a phrofiadau i’w dod â nhw i’n sefydliad. Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, rydym yn darparu cynllun cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer y swydd sy’n anabl, niwroamrywiol neu’n bobl y mwyafrif byd-eang.
Croesawn geisiadau gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ac rydym yn ceisio darparu prosiect dwyieithog i gynyddu ymgysylltiad.
Bydd yn rhaid i chi fod efo’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU a bydd angen gwiriad DBS cyfredol arnoch. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau cwrs diogelu ar-lein byr.
Pwy arall sy’n gysylltiedig â’r prosiect?
Bydd y creuwr cerddoriaeth yn rhan o dîm proffesiynol a fydd yn hwyluso’r bobl ifanc i greu eu hopera ddigidol eu hunain. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Arweinydd Prosiect a’r Cyfarwyddwr/Dramatwrg Jain Boon, canwr opera / animeiddydd lleisiol, a gwneuthurwr ffilmiau i helpu grŵp o tua 12 o bobl ifanc niwroamrywiol i adeiladu eu syniadau a chreu gwaith newydd a fydd yn cael ei gyflwyno fel cynhyrchiad Music Theatre Wales.
Eisiau gwybod mwy cyn gwneud cais?
Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth anffurfiol / C&A ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin o 11yb i 12 hanner dydd. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y rôl, am Music Theatre Wales a’n rhaglen Cyfeiriadau’r Dyfodol, ac i ofyn cwestiynau.
Bydd y gweminarau yn cael eu cynnal gan Jain Boon (Arweinydd Prosiect a Chyfarwyddwr/Dramatwrg Cyfeiriadau’r Dyfodol) a Michael McCarthy (Cyfarwyddwr MTW).
I archebu slot yn y digwyddiad hwn, cofrestrwch yma.
Ar ôl y sesiwn wybodaeth / C&A, os oes gennych ddiddordeb ond bod gennych fwy o gwestiynau, gallwch drefn sgwrs gyda Michael, Cyfarwyddwr MTW trwy e-bost michael@musictheatre.wales
Llinell Amser
Sesiwn C&A arlein:
Dyddiau Cau:
Cyfweliadau:
Dyddiad Cychwyn:
Preswylfeydd:
Cwblhau’r opera ddigidol:
Premiere Cyhoeddus:
Termau
Cytundeb: Cytundeb llawrydd am tua 12 mis (yn ddibynnol ar ddyddiad cychwyn), yn cwmpasu’r prif weithdai, preswylfeydd, a chynhyrchu/golygu’r gerddoriaeth, fel y nodir yn y llinell amser uchod.
Wedi’i leoli yn: Mae’r rôl hon yn cyfuno gweithio o bell/gartref gyda sesiynau wyneb yn wyneb. Tra bydd llawer o’r gwaith yn gallu cael ei gyflawni o bell, bydd y sesiynau ymarferol a’r preswylfeydd yn digwydd ar leoliad yn ardal RhCT. Yn ogystal, mae swyddfeydd MTW yng nghanolfan Chapter, Caerdydd, a gallai fod angen rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn swyddfeydd MTW.
Ffi: £5,000 am y cytundeb llawn ac am gwblhau a chyflwyno’r opera ddigidol.
Bydd treuliau rhesymol a gytunwyd ymlaen llaw yn cael eu had-dalu – bydd y rhain yn cael eu trafod a’u cytuno yn seiliedig ar leoliad cartref/gweithio’r creuwr cerddoriaeth.
Buddion: Mae MTW yn cynnig Rhaglen Cymorth i Weithwyr trwy Health Assured, sy’n darparu cymorth iechyd a llesiant i unrhyw un sy’n gweithio i MTW ar sail barhaol, llawrydd neu wirfoddol.
Mae MTW wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n agos gyda’r creuwr cerddoriaeth i sicrhau bod eu hanghenion yn y maes hwn yn cael eu diwallu. Bydd hyfforddiant diogelu cydnabyddedig yn cael ei ddarparu a’i dalu fel rhan o’r rôl.
Gwneud Cais
I wneud cais, ysgrifennwch e-bost neu recordiwch fideo, gan gyflwyno’ch hun a sôn am eich profiad. Soniwch am eich cerddoriaeth, sut a pham rydych chi’n ei greu, yn ogystal ag unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl sy’n bwysig i’w wybod.
Dylid anfon eich e-bost (a all gynnwys CV os ydych am anfon un) neu’ch cais fideo at kathryn@musictheatre.wales erbyn 12, canol dydd, dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024.
Gwybodaeth i’w chynnwys yn eich cais a/neu CV
- Eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref a rhif ffôn
- Gwybodaeth am y gwaith a/neu’r hyfforddiant rydych wedi’i gyflawni
- Dywedwch wrthym am eich cefndir a phrofiad cerddorol
- Pam eich bod chi’n gyffrous am gymryd rhan yn Cyfeiriadau’r
- Dyfodol a sut rydych yn gobeithio y bydd yn dylanwadu ar eich cerddoriaeth
- Anfonwch ddolen at ddau ddarn o’ch cerddoriaeth
- Enw 2 ganolwr. Ni fyddwn yn cysylltu â nhw heb ofyn i chi yn gyntaf. (Dylent fod yn bobl sy’n eich adnabod trwy addysg, cyflogaeth, gwirfoddoli neu ddiddordebau personol, nid rhywun sy’n perthyn i chi neu’n ffrind agos).
- Rhaid i chi lenwi’r ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal hon wrth gyflwyno’ch cais. Mae’n ddienw, ac yn rhoi gwybod i ni os ydym yn cyrraedd y bobl iawn – ni fydd yn ffurfio rhan o’r broses ddethol ac ni fydd yn cael ei gweld gan y panel.
Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ddydd Llun 29 Gorffennaf 2024 a bydd y panel cyfweld yn cynnwys Michael McCarthy (Cyfarwyddwr MTW) a Jain Boon (Arweinydd Prosiect a’r Cyfarwyddwr/Dramatwrg Cyfeiriadau’r Dyfodol). Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn anfon y cwestiynau atoch ymlaen llaw.