Nodau Newydd: Rhaglen Crewyr Cerddoriaeth Ifanc RhCT
Am fersiwn PDF gyda manylion llawn y cyfle hwn, cliciwch yma.
Mae MTW a Sinfonia Cymru yn cydweithio i gynnig cyfle creadigol cyffrous i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed, sy’n byw neu’n mynychu ysgol yn RhCT, i gyfansoddi eu cerddoriaeth wreiddiol eu hunain a’i chlywed yn cael ei pherfformio’n fyw.
- Wyt ti’n 14 i 18 oed ac yn byw neu’n mynd i’r ysgol yn RhCT?
- Wyt ti’n hoffi creu cerddoriaeth o unrhyw fath?
- A hoffet ti glywed dy gerddoriaeth yn cael ei berfformio YN FYW gan gerddorion proffesiynol?
Os felly, darllena ymlaen i ddysgu mwy am MTW a Sinfonia Cymru a chlywed beth all y rhaglen yma ei gynnig i ti.
Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu wedi’i theilwra gan weithio gyda mentor – y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis (Darlithydd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Newydd, Prifysgol Rhydychen) – i greu darn byr gwreiddiol. Ar hyd y broses, bydd y crewyr cerddoriaeth yn datblygu eu syniadau gyda cherddorion, yn archwilio offerynnau cerddorfaol, yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ac yn adeiladu eu rhwydweithiau a’u sgiliau ehangach.
Uchafbwynt y rhaglen fydd perfformiad o’r gweithiau newydd gan Sinfonia Cymru yn Y Parc a’r Dâr. Byddwn yn darparu 4 cerddor: ffidil, fiola, soddgrwth, a chlarinét/clarinét fas. Dylai’r gweithiau fod ar gyfer o leiaf 3 o’r offerynnau hyn, yn para hyd at uchafswm o 5 munud yr un.
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio gyda gofynion y cwricwlwm a therfynau amser gwaith cwrs mewn golwg, a bydd recordiad o ansawdd uchel o waith pob crëwr cerddoriaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflwyniadau a phortffolios. Nid yw’r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr cerddoriaeth TGAU a Safon Uwch yn unig – rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw berson ifanc sy’n dangos gwir dalent a brwdfrydedd dros greu cerddoriaeth.
Mae hwn yn gyfle cwbl rhad ac am ddim ac ni fydd unrhyw gost am gymryd rhan mewn unrhyw gam o’r rhaglen.
AMSERLEN Y RHAGLEN
Dydd Gwener 29 Tachwedd – Dyddiad Cau Gwneud Cais
Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb gwneud cais i gyflwyno’r canlynol:
- Gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi eich hun, eich diddordebau cerddorol a’ch profiad o greu cerddoriaeth hyd yma.
- Cynnig byr am y gwaith yr hoffech ei greu ar gyfer 3 neu 4 o’r cerddorion. Croesewir unrhyw gerddoriaeth bresennol sydd gennych a/neu fraslun o’r darn yr hoffech ei greu a’i themâu, ond ni ddisgwylir ichi fod wedi ysgrifennu’r darn yn y cam hwn. Os caiff eich dewis i fod yn rhan o’r rhaglen, bydd y broses greadigol yn digwydd dros sawl mis gyda mentora gan Luke Lewis.
Rhagfyr 2024 – Ebrill 2025
- Bydd y crewyr cerdd a ddewiswyd yn cael cynnig sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda Luke Lewis i gefnogi datblygiad eu gweithiau. Bydd hyn yn digwydd mewn cydweithrediad ag arweinwyr cwrs, athrawon a darparwyr creadigol.
Dydd Iau 8 Mai 2025 – Ymarferion a Recordio – Stiwdio 1, Theatr y Parc & Dare
- Bydd darnau y mae’r crewyr cerdd wedi bod yn gweithio arnynt gyda Luke yn cael eu ymarfer gan Sinfonia Cymru. Bydd pob darn yn cael ei recordio a’i roi i’r cyfansoddwr ar gyfer eu defnydd personol (gan gynnwys cyflwyniadau TGAU a Safon Uwch, os oes angen). Bydd y sesiwn hon yn digwydd yn ystod oriau ysgol i annog grwpiau ysgol i fynychu.
Dydd Iau 11 Medi 2025 – Perfformiad Cyhoeddus – Prif Awditoriwm, Theatr Y Parc a’r Dâr
- Bydd y darnau yn cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru fel rhan o ddigwyddiad ehangach MTW.
PWY ALL WNEUD CAIS
Mae’r cyfle hwn yn agored i bob person ifanc sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth newydd, waeth beth fo’u profiad, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- 14 i 18 oed
- Yn byw, neu’n myd i’r ysgol, yn Rhondda Cynon Taf
Nid yw sgiliau nodiant cerddorol yn hanfodol – am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i’n padlet lle gallwch weld cyflwyniad sleidiau o’r gweithdy blasu a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Luke.
Rydym eisiau cefnogi’r dychymyg cerddorol mwyaf cyffrous, beth bynnag fo’r arddull gerddorol rydych chi eisiau ei chreu. Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth newydd, ac rydym yn annog ceisiadau gan bobl o’r ystod ehangaf o gefndiroedd, gyda sgiliau a phrofiadau gwahanol.
CAMAU NESAF
1. Ewch i’n padled yma i ddarllen mwy am y rhglen, gan gynnwys:
Gwybodaeth am y Rhaglen: Pecyn manylion llawn y prosiect yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd â’r amserlen y prosiect.
Deunyddiau Adnoddau: Mae’r adran hon yn cynnwys sleidiau o weithdy Luke yr wythnos diwethaf, fersiwn fideo o’r gweithdy a rhai tudalennau sgôr gwag os hoffai unrhyw un roi cynnig ar fraslunio syniadau.
Pwy yw pwy: Rhagor o wybodaeth am Luke, Sinfonia Cymru, a ni yma yn MTW, yn ogystal â dolenni i’n gwefannau.
2. Cyflwynwch eich cynnig, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy fideo, i kathryn@musictheatre.wales erbyn 5pm ddydd Gwener 29 Tachwedd.
I drafod y rhaglen hon yn fwy manwl, neu i sgwrsio am unrhyw ofynion mynediad neu gynhwysiant ychwanegol, cysylltwch â Kathryn ar yr un cyfeiriad e-bost.
Am fersiwn PDF gyda manylion llawn y cyfle hwn, cliciwch yma.