Perthyn
Mae Music. Theatre. Wales. yn teimlo’n gyffrous wrth gyflwyno Perthyn – ail Opera Ddigidol Future Directions a grëwyd yn ystod 2023, mewn partneriaeth gyda Hijinx.
Rhaglen ar gyfer pobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – mae hi’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf fynegiannol-bwerus ar gyfer pobl o bob cefndir a hunaniaeth. Mewn cydweithrediad gydag artistiaid proffesiynol, mae’r grŵp o bobl ifanc niwroamrywiol yn dyfeisio a chreu opera newydd, gan archwilio eu syniadau, dysgu gan ei gilydd, ac ysbrydoli ei gilydd a’r artistiaid cefnogol. Cyflwynir y gwaith fel cynhyrchiad Music Theatre Wales, gan ymestyn ystod ein gwaith, datblygu dulliau newydd o weithio i’r cwmni, a chysylltu gyda chynulleidfaoedd na fyddent, mae’n debyg, erioed wedi ystyried opera fel rhywbeth a allai fod yn berthnasol i’w bywydau.
Ar gyfer y prosiect hwn, mae Music Theatre Wales wedi tynnu at ei gilydd y Gwneuthurwr Theatr a’r Dramatwrg Jain Boon, y Gwneuthurwr Cerddoriaeth Mari Mathias, y Gantores Llio Evans a’r Gwneuthurwr Ffilmiau Gavin Porter, i weithio ar y cyd gyda’r cyfranogwyr ifanc i greu gwaith newydd, gwreiddiol mewn tri symudiad. Mae’r darn gorffenedig, Perthyn, yn opera mewn cerddoriaeth, testun, symudiadau a ffilm wedi ei hadeiladu’n gyfan gwbl ar syniadau a chreadigrwydd y cyfranogwyr, ac mae’n cario neges gref oddi wrth y bobl ifanc i bawb ohonom feddwl amdani.
Mae Future Directions yn brosiect blynyddol sydd wrth wraidd prif weithgaredd y Cwmni. Cyflenwir y prosiect mewn partneriaeth gyda Theatr Hijinx.
Mae rhagor o wybodaeth am Cyfeiriadau’r Dyfodol ar gael yma.

Credydau
Hwyluswyr Creadigol 2022
Tîm Creadigol…
Jain Boon
Mari Mathias
Gavin Porter
Llio Evans
Cast…
Aled Hedd Davies
Mair Jones
Madelaine Lee
Hannah Morley
Callum Murray
Rain Preece
Daniel Raja
Angel Udraufski
Joshua Walker
Cymorth Lles…
Jon Dafydd-Kidd
Emily Poole
Glyn Morgan
Sophie Karpaty
Lluniau
Partneriaid
Daeth y cyllid ar gyfer Future Directions oddi wrth:
Gyda diolch i’n partneriaid a’n cyflenwyr:
Hijinx
Aberystwyth University
University South Wales, Atrium
Unite Student Accommodation
Sherman Theatre
Events on Stage