Somehow
Mae Somehow yn gân serch i ni ein hunain, i’r rheiny yr ydym yn eu hadnabod a’r rheiny nad ydym wedi cwrdd â nhw eto. Archwiliad ydyw o agosatrwydd a pherthnasoedd, nid yn unig rhwng y gerddoriaeth a’r symudiad, ond rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa. Gan fyfyrio ar ffurfiau a gofodau newydd i’r theatr gerdd fodoli oddi mewn iddynt, mae’r ysgrifennwr a’r dawnsiwr Krystal S. Lowe a’r cyfansoddwr Jasmin Kent Rodgman wedi creu gwaith sy’n tynnu ar theatr opera, emosiwn a mynegiant lieder a greddf dawns. Drwy bylu’r llinellau rhwng y llwyfan a’r sgrin, gobeithia Somehow gynnig profiad operatig ailddiffiniedig sy’n ymgorffori sut ydym yn byw heddiw a’n cysylltiadau â’r naill a’r llall.
Music Theatre Wales – Trelar New Directions: Somehow
Credydau
Ysgrifennwr/Libretydd – Krystal S. Lowe
Cyfansoddwr – Jasmin Kent Rodgman
Cyfarwyddwyr – Krystal S. Lowe / Jasmin Kent Rodgman
Symudiad a Geiriau Llafar – Krystal S. Lowe
Canu – Hilary Summers
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth – Jessie Rodger
Gwisgoedd – Emma-Jane Weeks
Golygydd – Jessie Rodger
Cynhyrchwyr – Krystal S. Lowe / Jasmin Kent Rodgman
Sain Ddisgrifiad – Krystal S. Lowe
Ymgynghorydd y Sain Ddisgrifiad – Tafsila Khan
Lleoliad – Ballet Cymru
Gyda diolch arbennig i Ballet Cymru, Amber Howells, Elayce Ismail, Michael McCarthy
Comisiynwyd SOMEHOW ar gyfer Cyfeiriadau Newydd – Rhaglen gan Music Theatre Wales