Ace McCarron
Cynllunudd golau yw Ace McCarron sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Drwy weithio gyda chwniau fel The Fires of London, Music Theatre Wales a’r Operastudio Vlaanderen, mae e wedi dylunio a chynllunio goleuo ar gyfer nifer fawr o operau cyfoes. Mae’n adnabyddus am ei waith gyda nifer o gwmniau ysgrifennu newydd, a chyda cwmniau plant a theatr pobl dduon. Bu’n aelod o gwmni Howard Barker, The Wrestling School, ers 1989 a fe wnaeth oleuo eu cynhyrchiad wyth awr o hyd, The Ecstatic Bible yng Ngŵyl Adelaide.
Ymhlith ei weithiau cysylltiedig ag opera diweddar mae: The Devil Inside a In the Locked Room/Ghost Patrol – y ddau yn ddangosiadau premiere byd-eang ac yn gydgynhyrchiadau rhwng Music Theatre Wales a Scottish Opera, The Trial gan Philip Glass – premiere byd-eang arall, Greek (a welwyd ddiwethaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Tongyeong), Eight Songs for a Mad King, The Killing Flower (Luci mie traditrici gan Sciarrino), The Golden Dragon (Music Theatre Wales); Elle est Moi et Tote Mich, (Operastudio Vlaanderen); Orlando Paladino (Wiener Kammeroper); The Fairy Queen (Gŵyl Gerdd Istanbul); Waar is Mijn Zeil? (Muziektheater Transparent).
Gyda’r cyfansoddwr Guy Harries, enillodd wobr gyntaf Flourish am addasiad o’r gwaith Two Caravans gan Marina Lewycka.