Adam Sinclair
Ers 2007, mae Adam Sinclair wedi arbenigo mewn modelu 3D ac animeiddio ar gyfer amgylcheddau amser real a gwaith fideo. Mae e wedi cydweithio’n agos gyda rhai o brif artistiaid y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Ed Atkins, Helen Marten (enillydd Gwobr Turner 2016), Elizabeth Price (enillydd Gwobr Turner 2012) a Tai Shani (enillydd Gwobr Turner 2019). Mae gwaith cydweithredol Adam wedi cael ei arddangos mewn nifer o leoliadau ledled y byd, yn cynnwys yr amgueddfa celf fodern, Efrog Newydd, y Venice Biennale a’r Palais de Tokyo, Paris. Bu’n helpu artistiaid i ddefnyddio’r dechnoleg newydd i greu profiadau rhyngweithiol ac ymdrochol. Yn 2018 bu’n cydweithio gyda’r band ‘Ravioli Me Away’ i greu deunydd gweledol animeiddiedig 3D ar gyfer eu hopera ‘The View from Behind the Futuristic Rose Trellis’.