Adrian Dwyer
Ganed Adrian Dwyer yn Melbourne, ac astudiodd yn y Guildhall School of Music and Drama a’r National Opera Studio. Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf fel Rodolfo yng nghynyrchiad Baz Lurhmann o La bohème yn Los Angeles, gan ennill Gwobr y LA Stage Alliance am Berfformiad Rhagorol. Ers hynny, mae e wedi perfformio’n fyd-eang mewn tai opera yn cynnwys Cape Town Opera, Opera de Toulon a’r State Opera of South Australia, Opera Comique Paris, ENO, Opera North, Scottish Opera, Opera Holland Park, Buxton Festival a NI Opera.
Ymhlith ei uchafbwyntiau y tymor hwn y mae ei ddychweliad i Opera Cenedlaethol Cymru fel Anatole yng nghynhyrchiad newydd David Pountney o War and Peace gan Prokofiev, yn dilyn yr hyn a alwyd gan yr adolygwyr fel ymddangosiad oedd yn “diffinio ei yrfa” gyda’r cwmni y tymor diwethaf, fel Andrei yn Khovanshchina gan Mussorgsky. Bydd hefyd yn rhoi perfformiadau cyntaf ar brif lwyfan Israeli Opera (Salome), Opera Zürich (Sweeney Todd) a’r Royal Opera House, Covent Garden, gan ddychwelyd i Opera Queensland fel Prince yn A Flowering Tree gan John Adams, ac i Longborough Festival Opera fel Mime yn y Ring Cycle – cynhyrchiad newydd y mae disgwyl mawr amdano.
Mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys ei berfformiad cyntaf yn y Teatro Real Madrid fel Sam Kaplan yn Street Scene, Electrician yn Powder Her Face gan Thomas Adès yng nghynhyrchiad agoriadol yr Irish National Opera (rhan roedd eisoes wedi ei chanu gyda Northern Ireland Opera ac a ailadroddodd yn ddiweddarach ar gyfer y Nevill Holt Festival) a Salome gydag Opera North.