
Alex Ho
Mae Alex Ho yn gyfansoddwr Prydeinig-Tsieinead sydd wedi ei leoli yn Llundain. Fel un o gyfansoddwyr ‘Soundhub’ Cerddorfa Symffoni Llundain, mae gweithiau Alex wedi cael eu perfformio/comisiynu gan yr LSO, Shanghai Philharmonic Orchestra, Royal Opera House, a’r National Opera Studio. Mae ei weithiau wedi bod yn rhan o Ŵyl SoundState (Canolfan y Southbank, Llundain), Sound Unbound (Canolfan y Barbican, Llundain), Chinese Arts Now (LSO St. Luke’s), a Late Junction y BBC. Roedd Alex yn gyd-enillydd Cystadleuaeth Philip Bates am Gyfansoddi yn 2016, yn un o ‘Leisiau Newydd 2018’ Sound and Music 2018, yn Artist yr Help Musicians UK Fusion Fund yn 2019, ac yn enillydd Gwobr George Butterworth 2020. Ymhlith ei brosiectau nesaf mae gwaith gyda’r Nevis Ensemble (comisiwn digidol, haf 2020) a’r Riot Ensemble (Gŵyl Crossroads, Salzburg, Tachwedd 2020). Graddiodd Alex gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Rydychen yn 2016 a chwblhau cwrs meistr yng Nghaergrawnt yn 2017, lle enillodd Wobr Arthur Bliss mewn Cyfansoddi. Ar hyn o bryd mae’n astudio am ddoethuriaeth yn y Coleg Cerdd Brenhinol (RCM) gydag ysgoloriaeth AHRC lawn (Efrydiaeth LAHP gyda chefnogaeth RCM).