Amanda Holden
Cafodd Amanda Holden ei magu mewn teulu o feddygon lle roedd creu cerddoriaeth yn rhan o fywyd bob dydd. Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth, enillodd ysgoloriaeth i’r Guildhall, Llundain, fel cyfeilydd. Bu hefyd yn astudio Therapi Cerdd, a hi oedd sefydlydd yr adran yn Ysbyty Charing Cross – sydd bellach wedi ei hadleoli i Ysbyty Chelsea a Westminster. Arhosodd yn y Guildhall, gan roi gwersi piano a gweithio fel cyfeilydd llawrydd hyd nes iddi, trwy hap a damwain, ei chael ei hun yn 1985 – gyda’i chyn-ŵr, Anthony – yn cyfieithu Don Giovanni ar gyfer Jonathan Miller yn yr English National Opera. Aeth ymlaen i ysgrifennu tua 60 o gyfieithiadau eraill a sawl libreto – yn cynnwys Bliss ar gyfer Brett Dean a The Silver Tassie ar gyfer Mark Anthony Turnage – ac am y gwaith hwnnw hi oedd yr awdur cyntaf i dderbyn Gwobr Olivier am Gyflawniad Rhagorol mewn Opera.
Caiff gwaith Amanda – a ystyrir fel “y fwyaf ffraeth a medrus o holl ymarferwyr cyfoes y grefft anodd hon” (The Daily Telegraph) – ei berfformio’n rheolaidd drwy’r byd Saesneg ei iaith. Mae ei chyfieithiadau diweddar ar gyfer yr ENO yn cynnwys Rodelinda (Handel) a Caligula (Glanert); derbyniodd ei Castor & Pollux (Rameau) enwebiad Olivier. Bydd cyfieithiadau Amanda o La Bohème a Lucia di Lammermoor (Donizetti) i’w clywed yn yr ENO yn nhymor 2018/19. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys fersiynau Saesneg o Orpheus gan Gluck (Opera Theatre of St Louis, Mehefin 2018) a The Snow Queen gan Hans Abrahamsen (a berfformir gyntaf yn 2019). Amanda hefyd yw sefydlydd-golygydd y Penguin Opera Guides; The Viking Opera Guide a The New Penguin Opera Guide sy’n cynnwys 850 o erthyglau ar gyfansoddwyr opera a’u gweithiau; mae argraffiad diweddaraf (y 5ed) o The Opera Guide, 100 Popular Composers, ar gael ar-lein: www.amandaholden.org.uk