Andrew Gourlay
Wedi ei eni yn Jamaica i deulu oedd yn hanu o Rwsia, treuliodd Andrew Gourlay ei ieuenctid yn y Bahamas, y Philippines, Japan a Lloegr. Ac yntau wedi ei hyfforddi fel trombonydd a phianydd, bu’n astudio crefft arweinydd yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle bu’n paratoi symffonïau Bruckner ar gyfer Bernard Haitink, a symffonïau Mozart ar gyfer Syr Roger Norrington. Cafodd ei ddewis gan y cylchgrawn Gramophone fel ‘Yr Un i’w Wylio’, a chan Music Magazine y BBC fel eu ‘Seren y Dyfodol: artistiaid mawr yfory’.
Enillodd Andrew Gourlay y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Cadaques 2010 ar gyfer Arweinwyr, gan sicrhau cyngherddau gyda 29 o gerddorfeydd ledled y byd. Am y ddwy flynedd ddilynol roedd yn Arweinydd Cynorthwyol i Syr Mark Elder a Cherddorfa’r Hallé. Yn 2015 penodwyd Gourlay i swydd Cyfarwyddwr Cerdd yr Orquesta Sinfónica de Castilla y León (OSCYL), ar ôl treulio cyfnod fel eu Prif Arweinydd Gwadd ers y tymor 2014/15, a dathlodd ben blwydd y gerddorfa yn 25 oed yn 2016/17.