Andrew MacKenzie-Wicks
Roedd Andrew Wicks yn aelod o gôr Cadeirlan Chichester ac yn sgolor corawl yn Durham. Graddiodd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Durham cyn mynd ymlaen i astudio canu a pherfformio yn y Royal Northern College of Music, gan ennill gwobr Johnston. Derbyniodd nawdd gan Ymddiriedolaeth Gerddorol Iarlles Munster i gefnogi ei astudiaethau.
Mae ei berfformiadau artistig yn cynnwys Gŵyl Glyndebourne (Cosi, Don Giovanni); English National Opera (Alcina, War and Peace); Scottish Opera (A Night at the Chinese Opera); Opera Cenedlaethol Cymru (Barber of Seville, Ariadne auf Naxos, Il Ritorno D’Ulisse, Seven Deadly Sins, Fidelio, Jephtha); Opera North (Elixir of Love); Grange Park Opera (Don Giovanni); Opera Northern Ireland (Don Pasquale); Castleward Opera (Cosi); Dublin Opera Theatre Company (Cenerentola); Buxton Festival Opera (Hercules, Maria Padilla, Armide, Veronique, Barber of Baghdad, Saul, Mignon, Camacho’s wedding); English Touring Opera (The Rake’s Progress, Barber of Seville); Chelsea Opera Group, Brighton Festival, ac Early Music Russia (Boris Godunov). Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys gweithio fel eilydd gyda’r Royal Opera House a Garsington Opera, canu yn y corws ychwanegol yn yr Opera House, a pherfformio yn The Golden Dragon ar gyfer Music Theatre Wales – cynhyrchiad a ddarlledwyd ar BBC Radio 3 a’i berfformio yn y DU ac yn Ngŵyl Tongyeong yn Ne Korea. Ailadroddodd y rôl hon ar gyfer yr Israel Contemporary Players yn Israel a Hwngari.
Dechreuodd ei yrfa gyngerdd ryngwladol gyda grwpiau megis y King’s Consort, y Gabrieli Consort a Chôr Monteverdi yn canu gweithiau gan Bach, Handel, Mozart a Purcell. Bu’n teithio Ewrop ac America ac yn perfformio yng nghyngherddau Proms y BBC. Mae ei repertoire Oratorio eang bellach yn ymestyn o’r baróc a’r cyfnod clasurol hyd at weithiau’r cyfnod rhamantaidd megis Gerontius, The Kingdom, The Apostles, Verdi Requiem a Beethoven Missa Solemnis, yn ogystal â gweithiau mwy cyfoes megis y Britten Spring Symphony, War Requiem a St Nicolas. Mae Andrew wedi perfformio ledled y DU ac yn Beijing, Mecsico, Singapore a St Petersburg.