Anna Dennis
Mae Anna Dennis, a ddisgrifiwyd gan The Times fel “[a] delectable soprano and a serene, ever-sentient presence”, yn mwynhau cyflwyo repertoire perfformio eang iawn, o opera i’r neuadd gyngerdd ac o gerddoriaeth baróc i gyflwyno gweithiau newydd. Mae ei pherfformiadau mwyaf nodedig yn cynnwys y War Requiem gan Britten gyda’r Berlin Philharmonie, Life Story gan Thomas Adès yn y Lincoln Centre, Carmina Burana gan Orff gyda’r Orquestra Gulbenkian yn Lisbon, a’r Christmas Oratorio gan Bach yn Nhŷ Opera Sydney. Ymhlith ei hymddangosiadau yn y BBC Proms mae perfformiadau gyda’r CBSO, y BBCSO, y Britten Sinfonia a’r Orchestra of the Age of Enlightenment.
Ymhlth ei rhannau operatig diweddar mae Florinda yn Rodrigo gan Handel (Göttingen Händel Festspiele), Lucy Schmeeler a Claire yn On The Town gan Bernstein (Hyogo Performing Arts, Japan), Paride yn Paride ed Elena gan Gluck (Nuremberg Opera House), Katherine Dee yn Dr Dee gan Damon Albarn (English National Opera), Emira yn Siroe gan Handel (Göttingen Händel Festspiele), Bersi yn Andrea Chenier (Opera North), Ilia yn Idomeneo gan Mozart (Birmingham Opera Company), a Strawberry Seller a’r Strolling Player yn Death in Venice gan Britten (La Scala, Milan). Mae Anna wedi creu rhannau mewn operâu newydd gan Francisco Coll, Jonathan Dove, Edward Rushton, Will Tuckett a Yannis Kyriakides.
Mae ei pherfformiadau cyngerdd diweddar wedi cynnwys cerddoriaeth gyfoes ar gyfer y Birmingham Contemporary Music Group, cyngherddau’r Scottish Chamber Orchestra gyda Peter Whelan a Maxim Emelyanychev, y tair opera gan Monteverdi gyda John Eliot Gardiner, ail Bedwarawd Llinynnol Schoenberg (Auditorio de Tenerife), y Christmas Oratorio gan Bach gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment a Masaaki Suzuki, a’r Easter Oratorio gan Bach gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Jonathan Cohen, Il Trionfo di Dori gan Handel, a Venus and Adonis gan Blow ym Moscow, Stabat Mater gan Pergolesi gyda’r Helsinki Baroque Orchestra, Schöpfung gan Haydn gyda’r Düsseldorf Symphoniker ac Adam Fischer, a gyda’r Early Opera Company dan arweiniad Christian Curnyn yn y Wigmore Hall.