Caroline Finn
A hithau wedi ei geni yn Lloegr, mynychodd Caroline Finn yr Arts Educational School, Tring ac yna y Juilliard School, Efrog Newydd, lle graddiodd ag BFA mewn dawns. Fel dawnsiwr, mae Caroline wedi perfformio gyda’r Ballet Theatre Munich dan gyfarwyddyd Philip Taylor; Ballet Preljocaj (Ffrainc) a Compagnie Carolyn Carlson (Ffrainc). Mae Caroline Finn wedi gweithio fel dawnsiwr a choreograffydd ers 2009 gan greu gweithiau ar gyfer cwmnïau megis y Tanz Luzerner Theatre (Y Swistir); Cwmni Ballet Cenedlaethol Chile, Cross Connection Ballet (Denmarc); Compagnie DIEM (Ffrainc) a Teatr Groteska (Gwlad Pwyl). Mae hi wedi cyflwyno ei gweithiau ledled y byd mewn gwyliau yn Ne Korea, Japan, Berlin a Paris, ymhlith mannau eraill. Ar ôl ennill y Matthew Bourne New Adventures Choreographer Award 2014, cafodd ei chomisiynu’n fuan wedyn i greu ‘Bloom’ ar gyfer y Phoenix Dance Theatre.
Caroline yw Coreograffydd Preswyl Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae hi wedi creu pedwar darn newydd ar gyfer y cwmni, yn cynnwys Folk a The Green House.