Caryl Hughes
O Ben Llŷn yn y Gogledd y daw Caryl, ac fe raddiodd gydag anrhydedd o Academi Frenhinol Cerddoriaeth yn ystod haf 2007.
Ymhlith ei rhannau Operatig a Theatr gerddorol mae Maria/West Side Story a Cosette/Les Miserables ar gyfer Cwmni Pimlico Opera, Olga/Eugene Onegin a First Nymph/Rusalka ar gyfer Grange Park Opera, Angela ym mherfformiad cyntaf erioed Nicola LeFanu o Dream Hunter, Madama Brillante/The Italian Girl yn Llundain a Giacinta/La Finta Semplice ar gyfer Bampton Opera, Orlovsky/Die Fledermaus ac wrth gefn ar gyfer rhan Jane Seymour/Anna Bolena ar gyfer Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Tiny/Paul Bunyan, Papagena/The Magic Flute a Rita Rat/Fantastic Mr Fox ar gyfer English Touring Opera, Cenerentola a gyfer Iford Arts Festival, Sonya/Sonya’s Story ar gyfer tete-a-tete Festival, Cherubino/Le nozze di Figaro(wrth gefn) a Dorabella/Cosi Fan Tutte(wrth gefn) ar gyfer Scottish Opera, Sifare/Mitridate (wrth gefn) a Orlovsky/Die Fledermaus ar gyfer Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Yniold/Pelléas et Mélisande ar gyfer Independent Opera a Flora (perfformiad cyntaf The enchanted Pig gan Jonathan Dove ar gyfer the Young Vic Theatre a The Opera Group).
Mae Caryl wedi perfformio mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel yn Grange Park Opera, Gwyl y Gelli Gandryll ac ar gyfer Raymond Gubbay, a chyda Syr Thomas Allen yn y Three Choirs Festival. Mae ei chryno ddisg cyntaf o ganeuon Cabaret Britten gyda Malcolm Martineau wedi cael ei ryddhau gan ONYX, ar ôl eu perfformio nhw yng ngwyliau Aix-en-Provence a Aldeburgh yn 2009.
Yn ddiweddar, perfformiodd Caryl rôl Dorabella a Cherubino ar gyfer Diva Opera ar daith ac yn Ne Affrica.
Dyma ei thro cyntaf hithau yn gweithio gyda Music Theatre Wales.