Cécile Trémolières
Mae Cécile, a chanddi gefndir Ffrengig-Prydeinig, yn gynllunydd set a gwisgoedd hynod lwyddiannus. Hyfforddwyd hi yn y Wimbledon College of Arts, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 2013.
Yn 2018 roedd hi, ynghyd â’r cyfarwyddwr Gerard Jones, yn enillydd 10fed Wobr yr European Opera am Gyfarwyddo. Roedd hi ymhlith y rhai a gyrhaeddodd rownd olaf Gwobr Linbury (2013) ac roedd yn Gynllunydd Ifanc Jerwood (2017).
Cyflwynwyd Bwrsari Jerwood Micro iddi yn 2017, Bwrsari The Royal Opera House Linbury yn 2015, a Gwobr yr Ideas Tap i Raddedigion yn 2014. Cafodd ei henwebu am y Cynllun Set Gorau yn y Gwobrau Theatr Off West End yn 2014.
Cafodd gwaith Cécile ei ddangos yn arddangosfa y World Stage Design 2017 yn ninas Taipei, yn y Prague Quadrennial 2015 fel rhan o Bafiliwn Prydain, ac yn arddangosfa y V&A, Make/Believe: UK Design for Performance, 2011–2015.
Mae ei chredydau’n cynnwys:
Am opera, Edmea (Gŵyl Wexford, Iwerddon), La Boheme (Theater Bielefeld), Manon (Mainz Staatstheater), Code Noir (Opera de Massy), La Tragédie de Carmen (Royal Opera House).
Am y theatr: Un qui veut Traverser (La Colline, Paris), Histoires de France (La Passerelle, Angoulême), Wuthering Heights (Royal Exchange, Manceinion), Midnight Movie, Hole (Royal Court, Llundain), Midsummer (Gŵyl Ryngwladol Caeredin), The Crucible, This Beautiful Future, The Mikvah Project (The Yard, Llundain), Suzy Stork (The Gate, Theatre National de Bretagne).