Conor Mitchell
Mae Conor Mitchell yn gyfansoddwr opera a theatr-gerdd arobryn, libretydd a chyfarwyddwr llwyfan, sy’n adnabyddus am gyfuno dyluniad llwyfan gyda chelfyddydau gweledol cyfoes. Mae ei waith yn ymgysylltu a chynulleidfaoedd trwy bynciau sy’n berthnasol yn gymdeithasol ac yn llawn gwleidyddiaeth. Wedi’i enwebu ddwywaith am Wobr Cyfansoddwyr Ivor Novello, mae Conor wedi derbyn Gwobr Artistiaid Unigol Mawr Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon ac mae’n gymrawd gydol oes o’r Arts Foundation am ei gyfansoddi. Ymhlith ei gydweithrediadau nodedig mae gwyliau Rhufain, Yr Iseldiroedd, Caeredin, ac Aldeburgh, y National Theatre, ac Opera Cenedlaethol Iwerddon. Yn ddiweddar, bu’n Gyfansoddwr Preswyl yn Wexford Opera ac yn Gymrawd Seamus Heaney ym mhrifysgol Queens, Belfast. Cafodd ei opera Abomination: a DUP Opera ei restru ymysg y Deg Gwaith Clasurol Gorau yn 2019 ac enillodd ‘Best Opera Production’ yng Ngwobrau Theatr Y Times Gwyddelig yn 2020.