Eddie Ladd
Mae Eddie Ladd yn berfformiwr amryddawn ac mae ei gwaith yn amrywio o actio a dawns, i gelf amlgyfrwng. Yn adnabyddus am ei pherfformiadau deinamig a chorfforol, mae wedi bod yn ffigwr arwyddocaol yn theatr Cymru ers dros dair degawd. Bu’n gweithio gyda Brith Gof am ddegawd ac mae wedi teithio’n rhyngwladol gyda’i gwaith ei hun, gyda sioeau am gangsteriaid Miami, Bobby Sands, Maria Callas, Caitlin Thomas ac, yn bennaf, ei milltir sgwâr ei hun. Mae Eddie wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys Cymrodoriaeth NESTA ac Artist Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru, ac mae’n parhau i wthio ffiniau celfyddyd berfformio, gan archwilio ffurfiau a naratifau newydd. Bu hi unwaith yn gyflwynydd ar y rhaglen gerddoriaeth Gymraeg Fideo 9 ar S4C ac yn cyflwyno cylchgrawn celfyddydol BBC Cymru, The Slate.