Elgan Llyr Thomas
Yn wreiddiol o Landudno, mae’r tenor Elgan Llŷr Thomas yn perfformio amrywiaeth eang o repertoire yn y canon operatig ac yn mwynhau gyrfa brysur ar lwyfannau cyngherddau. Mae’n un o gyn artistiaid Harewood Opera Cenedlaethol Lloegr ac roedd yn un o artistiaid ‘ar i fyny’ Opera’r Alban. Mae rhai o’i rolau diweddar yn cynnwys Rinuccio yn “Il Trittico” gydag Opera’r Alban, Dr Richardson yn “Breaking the Waves”, Opéra Comique,a a Dug Mantua yn “Rigoletto”, Opera Holland Park. Mi fydd yn chwarae Almaviva yn “Il barbiere di Siviglia” yn Opera Holland Park a Don José yn “La Tragédie de Carmen” yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton. Gwnaeth Elgan ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Philharmonic Brenhinol Lerpwl ac fe fydd yn perfformio gyda’r Boston Symphony Orchestra yn Tanglewood. Mae’n ymroddedig i addysg gerddorol a rhaglenni allgymorth, gan ysbrydoli cerddorion ifanc. Mae ei albwm diweddar “Unveiled” yn gasgliad o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr a beirdd cwiar.