London Sinfonietta Ensemble – four cellists
Mae’r London Sinfonietta yn un o’r prif ensemblau cerddoriaeth gyfoes yn y byd. Wedi’i sefydlu yn 1968, mae wedi comisiynu dros 400 o weithiau, a rhoi perfformiadau premier di-rif. Fel ensemble preswyl yng Nghanolfan y Southbank ac yn Gysylltai Artistig yn Kings Place, gydag amserlen brysur o deithio o gwmpas y Deyrnas Gyfunol a thramor, mae’r cnewyllyn o 16 o Brif Chwaraewyr ymhlith rhai o’r cerddorion gorau yn y byd, fel unawdwyr a chwaraewyr ensemble.
“The world’s top new-music ensemble”
The Times
Trwy gydol y 50 mlynedd ers ei sefydlu, mae’r London Sinfonietta wedi gweithio gyda llawer o’r lleisiau gorau ym maes cerddoriaeth newydd, o brif gyfansoddwyr y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, megis Luciano Berio, György Ligeti a Karlheinz Stockhausen, i’r goreuon ymhlith y cyfansoddwyr byw a’r artistiaid traws-ddisgyblaethol yn cynnwys Syr George Benjamin, Syr Harrison Birtwistle, Tansy Davies, Steve Reich, Johnny Greenwood, Mica Levi a Christian Marclay. Ei ethos heddiw yw arbrofi’n gyson gyda’r ffurf gelfyddydol, gan greu gwaith rhagorol sy’n cymryd risg ac yn gwthio ffiniau yr hyn y gall cerddoriaeth newydd fod.
Mae pedwar o chwaraewyr soddgrwth y London Sinfonietta yn perfformio ar y llwyfan ar gyfer Denis & Katya.