Exaudi
Mae EXAUDI yn un o brif ensemblau lleisiol y byd yng nghyd-destun cerddoriaeth newydd. Sefydlwyd EXAUDI gan James Weeks (cyfarwyddwr) a Juliet Fraser (soprano) yn 2002, ac o’i bencadlys yn Llundain mae’n tynnu ei gantorion o blith talentau lleisiol mwyaf disglair y Deyrnas Gyfunol.
Mae gan EXAUDI gysylltiad arbennig â ffiniau radical cerddoriaeth gyfoes, ac mae yr un mor gartrefol ym meysydd y cymhlethdod mwyaf posibl, microdonyddiaeth ac estheteg ragbrofol. Mae’r gerddoriaeth ddiweddaraf un wrth galon ei repertoire, a chyflwynodd premieres cenedlaethol a byd o weithiau gan Sciarrino, Rihm, Finnissy, Fox, Posadas, Oesterle, Crane, Eötvös, Ferneyhough, Gervasoni, Skempton, Ayres, Pesson, Poppe, Mažulis a Fox ymhlith nifer o rai eraill. Drwy ei gynllun comisiynu, mae gan EXAUDI ymrwymiad arbennig i gerddoriaeth ei genhedlaeth ei hun, ac mae’n falch o gefnogi gwaith lleisiau arwyddocaol yn cynnwys Aaron Cassidy, Evan Johnson, Bryn Harrison, Amber Priestley, Matthew Shlomowitz, Joanna Bailie, Cassandra Miller, Andrew Hamilton, James Weeks a Claudia Molitor.
Mae gan EXAUDI gysylltiadau cryf â’r genhedlaeth newydd o gyfansoddwyr ifanc, ac mae’n cymryd rhan yn gyson mewn cynlluniau datblygu cyfansoddwyr a chynlluniau preswyl megis SaM Portfolio, Voix Nouvelles Royaumont, IRCAM Manifeste Academie a chynlluniau preswyl i gyfansoddwyr yn Aldeburgh, ynghyd â gweithdai mewn prifysgolion a conservatoires ledled y Deyrnas Gyfunol. Mae gan EXAUDI berthynas arbennig o gryf â’r Guildhall School of Music & Drama ac â City, Prifysgol Llundain, lle mae’n Ensemble Preswyl.