Frances Gregory
Mae Frances Gregory, mezzo-soprano o Brydain, wedi graddio’n ddiweddar o’r Royal Academy Opera. Y tymor hwn mae hi’n canu rhan Nancy yn Albert Herring gan Britten ar gyfer Clonter Opera a Claudio yn Silla gan Handel ar gyfer y Northern Opera Group; roedd hi hefyd yn aelod o gorws Glyndebourne ar gyfer eu taith yn yr Hydref. Cyn hynny, ar gyfer MTW bu’n cysgodi rôl y mezzo-soprano yn y premiere Ewropeaidd o Denis & Katya gan Philip Venables, oedd yn gyd-gynhyrchiad gydag Opera Philadelphia.
Yn ystod 2020/21 roedd hi’n artist stiwdio gyda’r Opéra National de Lyon ac yn egin-artist gyda’r Longborough Festival Opera, lle roedd ei rhannau’n cynnwys Maman, La Tasse Chinoise a La Libellule yn L’enfant et les sortilèges gan Ravel, a Fox a Dog yn The Cunning Little Vixen gan Janácek. Mae hi’n gyn-Artist Ifanc Alvarez gyda’r Garsington Opera ac roedd yn un o Dalentau Handel House Laurence Cummings yn 2019–21.
Tra oedd yn fyfyriwr, enillodd Wobr y RAM Club 2018, roedd yn unawdydd alto yn y St Matthew Passion gan Bach, gyda Trevor Pinnock yn arwain, a rhoddodd ei datganiad cyntaf fel unawdydd yn y Wigmore Hall gyda Song Circle. Am ei pherfformiad o Sycorax yn The Enchanted Island gyda’r British Youth Opera yn 2018, cyflwynwyd iddi Wobr Patrick Fyffe/Dame Hilda Bracket o Sadler’s Wells.