Geoffrey Paterson
Astudiodd Geoffrey Paterson gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama, gan gymryd gwersi cyfansoddi o Alexander Goehr a chymryd rhan mewn meistr ddosbarthiadau gyda Pierre Boulez. Enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Leeds 2009.
Mae’n gweithio’n rheolaidd yn y Royal Opera House, Covent Garden, lle arferai fod yn aelod o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker, yn helpu arweinwyr gan gynnwys Antonio Pappano, Mark Elder, Andris Nelsons a Daniele Gatti ar repertoire helaeth. Gweithiodd am ddau dymor yn Bayreuth yn gymhorthydd cerddorol i Kirill Petrenko ar gyfer Der Ring des Nibelungen.
Arweiniodd Le Portrait de Manon a sawl permiere byd ar gyfer yr ROH. Bu hefyd yn arwain yn Opera North (La bohème), Opera Brenhinol Danmarc (Porgy and Bess a The Nutcracker), Glyndebourne (Followers a Die Entführung aus dem Serail), Ilford Festival Opera (Don Giovanni a La Vie Parisienne), Gwyliau Aldeburgh a’r Iseldiroedd (The Corridor a The Cure) a Gwyliau Buxton a Bregenz (Gloria von Jaxtberg).
Mae’n gweithio’n reolaidd gyda’r London Sinfonietta, ac ymhlith ei ymddangosiadau diweddar mewn cyngherddau mae’r Manchester Camerata, Cerddorf Simffoni Hamburg a Cherddorfa SIambr yr Alban. Mae wedi recordio ar gyfer NMC gyda’r London Sinfonietta ac ar gyfer BBC Radio 3 gyda Cherddorfa Simfoni’r BBC.