Gerald Barry
Ganed Gerald Barry yn Clare, Iwerddon, yn 1952 ac astudiodd yn Amsterdam a Cologne gyda Peter Schat, Karlheinz Stockhausen a Mauricio Kagel, ymhlith eraill. Daeth i enwogrwydd yn 1979 gyda gweithiau oedd yn cynnwys ‘________’ a Ø. Ers hynny mae wedi derbyn comisiynau gan y BBC Proms (Chevaux-de-frise), BBC Symphony Orchestra (The Conquest of Ireland, Day, Wiener Blut), Birmingham Contemporary Music Group (Dead March a Beethoven), London Sinfonietta (God Save the Queen a Feldman’s Sixpenny Editions), De Volharding Piano Quartet (Hard D), Ensemble 7Bridges (No People) a Bayerischer Rundfunk/Musica Viva a’r City of Birmingham Symphony Orchestra (ei Gonsierto i’r Piano, a gyfansoddwyd ar gyfer Nicolas Hodges), ymhlith eraill.
Comisiynwyd ei opera gyntaf, The Intelligence Park, gan yr ICA a pherfformiwyd hi am y tro cyntaf yn 1990 yn yr Aldeburgh Festival. Dilynwyd hi gan The Triumph of Beauty and Deceit (2002, Channel 4 Television a’r Aldeburgh Festival), The Bitter Tears of Petra von Kant (2005, English National Opera), La Plus Forte (2007, Radio France), The Importance of Being Earnest, enillydd Gwobr y Royal Philharmonic Society 2013 am Gyfansoddiad ar Raddfa Fawr, ac Alice’s Adventures Under Ground (2016, Los Angeles Philharmonic Association, Gustavo Dudamel, y Barbican Centre a’r Britten Sinfonia).
Recordiwyd cerddoriaeth Barry gan sawl ensemble, yn cynnwys yr RTÉ National Symphony Orchestra, y Nash Ensemble, BCMG, yr Almeida Ensemble, yr Irish Chamber Orchestra a’r Composers Ensemble, ar gyfer NMC, Black Box Music, Metronome Records a Discovery Recordings.
been recorded by ensembles including RTÉ National Symphony Orchestra, the Nash Ensemble, BCMG, the Almeida Ensemble, the Irish Chamber Orchestra and the Composers Ensemble, for NMC, Black Box Music, Metronome Records and Discovery Recordings.