Guto Puw
Astudiodd Guto Pryderi Puw gerDdoriaeth ym Mhrifysgol Bangor o dan y cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis, gan ennill ei statws MMus yn 1996 ac yn hwyrach ei PhD mewn Cyfansoddi yn 2002. Cafodd ei benodi yn aelod llawn o staff yn 2006 gan ddarlithio’n bennaf ar Gyfansoddi a Cherddoriaeth Gyfoes a chafodd ei benodi yn Bennaeth Cyfansoddi yn 2015.
DaEth i amlygrwydd yn gyntaf wedi iddo ennill Medal y Cyfansoddwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 1995 ac am yr ail waith yn 1997. Cafodd ei gerddoriaeth ei berfformio mewn nifer o wyliau o amgylch y Deyrnas Gyfunol a’i ddarlledu yn reolaidd ar y radio a’r teledu. Ym mis Chwefror 2006 daeth yn Gyfansoddwr Preswyl cychwynnol gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru, gyda’i goncerto i’r Obo yn ennill category Gwobr y Gwrandawyr yng Ngwobrau Cyfansoddwyr Prydain yn 2007 ac fe gafodd ‘…onyt agoraf y drws…’ ei ddangosiad cyntaf neu “premiere” yn y Proms yn ystod yr un flwyddyn. Ei opera siambr gyntaf fydd y Tŵr, sydd yn seiliedig ar ddrama Gwenlyn Parry gyda libreto gan Gwyneth Glyn. Wedi ei gomisynu eisoes mae ei ail goncerto i’r fiolin, pedwarawd llinynol a gwaith cerddorfaol mawr.
Rhyddhawyd detholiad o’i weithiau cerddorfaol diweddar ar y cryno ddisg, “Reservoirs” gan recordiau Signum yn 2014. Cafodd wobr Syr Geraint Evans hefyd gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei ‘gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymreig’ yn 2014. Bu Puw yn weithgar ers nifer o flynyddoedd yn hybu cerddoriaeth newydd yng ngogledd Cymru drwy ei weithgarwch fel aelod sylfaenol a chyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerddoriaeth Bangor ers y flwyddyn 2000.