Gweneth Ann Rand
Bu Gweneth Ann Rand yn astudio ym Mhrifysgol Exeter, Coleg Goldsmith’s a’r GSMD. Roedd hi’n Artist Ifanc Vilar yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, a bu’n cynrychioli Lloegr yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n Artist Cyswllt yn Neuadd Wigmore. Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau clodwiw o 4.48 Psychosis ar gyfer The Royal Opera/Lyric Hammersmith, Prototype Festival yn Efrog Newydd, Opéra national du Rhin a Philharmonie de Paris; ynghyd â Serena yn Porgy and Bess a Mother Bailey yn It’s a Wonderful Life ar gyfer English National Opera. Caiff ei hadnabod hefyd fel dehonglydd gweithiau Messiaen, yn enwedig felly ei gylchoedd o ganeuon Harawi a Poèmes pour mi.