Gwion Thomas
Ganwyd Gwion yng Ngorseinon, ger Abertawe ac mae’n nau i’r canwr Cymraeg/Americanaidd enwog Thomas Llyfnwy Thomas. Astudiodd yng Ngholeg y Royal Northern College of Music ym Manceinion ac mae’n brysur yn unawdydd opera a chyngherddau. Canodd rannau Figaro ym Marbwr Seville a Tornrak gan Metcalfe ar gyfer Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Gyda Chwmni Scottish Opera fe ganodd ran Maitra yn Snatched by the Gods gan Vir a Godwin yn Beamish’s Monster. Ymhlith ei rannau niferus gyda Kent Opera mae’r ran a greodd sef, Chao Lin yn A Night at the Chinese Opera gan Wier a rhan Orfeo yn Orfeo gan Monteverdi. Mae ganddo gysylltiad arbennig gyda Music Theatre Wales, ac yn canu nifer o rannau gan gynnwys Blazes yn The Lighthouse gan Maxwell Davies, Mr Punch yn Punch and Judy gan Birtwistle ac yn fwyaf diweddar, Dad yn y cynhyrchiad Greek gan Turnage a enillodd wobrau a Huld yn The Trial gan Philip Glass. Dramor bu’n canu gyda Blazes with Transparent (Antwerp), Eddy yn Greek yn y perfformiad cyntaf a gafwyd yn yr Iseldiroedd gyda Taller Amsterdam, a A Water Bird Talk gyda chwmni Opera Theatre Company yn Nulyn.
Yn ddiweddar, ef oedd Elijah yn yr Wyddgrug a Winterreise gan Schubert yn Loughborough. Mae’n byw yn Swydd Northampton a hefyd yn dysgu yn y Conservatoire yn Birmingham.