Gwyneth Glyn
Bardd, awdures, cyfansoddwraig a chantores yw Gwyneth Glyn, sydd yn byw yng Nghricieth, Gogledd Cymru. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2006-2007 ac mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer y theatr yng Nghymru, gan gynnwys darnau ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, Bara Caws, Frân Wen, De Oscuro a chynhyrchiad Music Theatre Wales o Stori’r Milwr/The Soldier’s Tale. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer yr opera sebon, Pobol y Cwm. Mae hi hefyd wedi perfformio’n ryngwladol yn WOMEX, Gŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian, Washington DC, ac yng ngŵyl y Folk Alliance International yn Ninas Kansas. Yn 2015 cefnogodd Seckou Kita, y canwr Kora o Senegal ar ei daith o’r DG, ac fe gydweithiodd yn diweddar gyda cherddorion o Mumbai ar yr albwm Ghazalaw, sydd yn plethu caneuon gwerin Cymraeg gyda chaneuon Ghazal India. Ar hyn o bryd mae hi’n recordio ei halbwm unigol nesaf.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gwyneth yma: http://gwynethglyn.com/