Iwan Teifion Davies
Iwan Davies yw Cyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth. Yn y Salzburger Landestheater, bu’n arwain repertoire eang, o Rossini i Philip Glass. Yng ngŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae’n Bennaeth Cerdd, mae wedi arwain Donizetti, Bizet ac Ivor Novello. Gyda’r English Touring Opera, bu’n arwain La bohème a’r Ceiliog Aur. Mae’n gefnogwr brwd o gerddoriaeth Cymraeg, ac wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd wrth nifer o gyfansoddwyr. Fe oedd arweinydd operâu Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru Fydd ac Un Nos Ola Leuad, yr ail gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Yn ddiweddar cafodd ei anrhydeddu gyda gwobr Hilary Tann am orchest nodedig mewn cerddoriaeth yng Nghymru gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.