
Jasmin Kent Rodgman
Mae Jasmin Kent Rodgman – Artist, Cyfansoddwr a Chynhyrchydd sydd â’i gwreiddiau ym Mhrydain a Malaysia – yn tynnu at ei gilydd y meysydd clasurol cyfoes, electroneg a chelfyddyd sain i greu seinweddau neilltuol a hunaniaethau cerddorol. Mae hi’n cydweithio’n rheolaidd ar draws sawl ffurf o gelfyddyd yn cynnwys dawns, gair, ffilm a gwaith rhithiol.
Mae ei gwaith wedi cael ei berfformio ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid yn cynnwys yr LSO, London Sinfonietta, London Fashion Week, World Music Festival Shanghai, Edinburgh International Festival, Wilderness Festival, Bush Theatre a Roundhouse. Mae ei sgoriau ffilm wedi ymddangos yn fwyaf diweddar ar Lights Up (BBC Four), BBC Arts Culture in Quarantine, ac yng ngwyliau ffilm Sundance a SXSW.
Yn 2018/19 roedd hi’n Gerddor Preswyl y Cyngor Prydeinig ac Ymddiriedolaeth PRS: China, ac yn 2017/18 roedd yn Gyfansoddwr Jerwood gyda’r LSO. Yn 2020/21 cyflwnwyd iddi hefyd y PRS Foundation’s Women Make Music and Open Fund, Help Musicians Do It Differently, a a gwobrau Sound & Music a’r Bagri Foundation. Ewch i jkrodgman.com am ragor o wybodaeth.