Jessica Cottis
Treuliodd Jessica Cottis ei chyfnod proffesiynol cynnar fel arweinydd cynorthwyol i Vladimir Ashkenazy gyda Cherddorfa Symffoni Sydney. Byth ers hynny mae ei pherfformiadau wedi ennill clod cyson yn y wasg, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
A hithau wedi ei nodi’n ddiweddar fel “The ‘classical face’ to watch” (The Times), mae arddull ddeinamig Cottis o arwain, ei deallusrwydd cerddorol arbennig, a’i dull ysbrydoledig o roi arweiniad, wedi arwain at nifer o wahoddiadau i weithio fel arweinydd gwadd i gerddorfeydd megis y London Symphony Orchestra, Los Angeles Philharmonic Orchestra, Houston Symphony, London Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, BBC Symphony Orchestra, BBC Concert Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, London Sinfonietta, Gävle Symphony Orchestra, Malmö Symphony Orchestra a’r Oulu Symphony Orchestra, yn ogystal â llu o wahoddiadau i ddychwelyd i’r BBC Proms.
Yn dilyn llwyddiant ei pherfformiad cyntaf yn y Royal Opera House yn 2017, yn arwain y premiere o Mamzer gan Na’ama Zisser, gwahoddwyd hi’n ôl ar unwaith i arwain y premier byd o The Monstrous Child gan Gavin Higgins; mewn adolygiad yn y Financial Times, dywedwyd “[it was] strikingly brought to life by the Aurora Orchestra conducted by Jessica Cottis”.
Bydd ei pherfformiadau y tymor hwn yn cynnwys dychwelyd at y Sydney Symphony Orchestra, a pherfformiadau cyntaf gyda’r Royal Liverpool Philharmonic, Singapore Symphony, a’r English Chamber Orchestra. Mae Jessica’n gweithio ar raddfa eang fel eiriolwr dros cerddoriaeth glasurol.