Joe Fletcher
Cynllunydd theatr llawrydd yw Joe, yn arbenigo mewn goleuo ac mewn cynllunio golygfeydd ar gyfer y theatr, dawns, digwyddiadau a phensaernïaeth. Treuliodd gyfnod fel Cyfarwyddwr Technegol a Chynllunydd Technegol gyda Chwmni Dawns Sydney a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gan weithio gyda’r coreograffwyr Ohad Naharin, Christopher Bruce, Rafael Bonachela ac Angelin Preljocaj. Cafodd cynllun goleuo a fideo Joe ar gyfer Purlieus (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru) ei ddewis fel un o’r goreuon yn y World Stage Design Exhibition 2013, a’i gynnwys ymhlith 15 uchafbwynt papur newydd The Daily Telegraph.
Ceir rhagor o wybodaeth am waith Joe yma: www.joefletcherdesign.co.uk