Johnny Herford
Enillodd Johnny Herford Wobr y Gân yng Nghystadleuaeth Kathleen Ferrier, ac yn ddiweddarach Wobr Jean Meikle ar y cyd â’r pianydd William Vann yn y Wigmore Hall International Song Competition.
Yn 2015, dewiswyd Johnny gan Philip Glass i greu rhan Josef K yn ei opera ddiweddaraf, The Trial. Cafodd yr opera ei pherfformiad cyntaf yn Theatr Linbury y Royal Opera House, mewn cydweithrediad rhwng Music Theatre Wales a’r Royal Opera House. Mae e hefyd wedi perfformio rhan Josef K ar gyfer Theater Magdeburg, a hynny ym Magdeburg ac yn Craiova, Romania. Dychwelodd at Music Theatre Wales yn 2016 ar gyfer The Golden Dragon gan Peter Eötvös, ac yn 2017 gyda Passion gan Dusapin.
Mae ei ymrwymiadau diweddar yn cynnwys ei berfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau ar gyfer Opera Philadelphia yn y Premier Byd o Denis & Katya; ar gyfer Opera di Roma yn rhan y Novice’s Friend yng nghynhyrchiad arobryn Deborah Warner o Billy Budd; Mr Lockwood yn Wuthering Heights ar gyfer yr Opera National de Lorrain, a’r llynedd perfformiodd am y tro cyntaf gyda’r English National Opera yng nghynhyrchiad Mike Leigh o The Pirates of Penzance. Mae ei berfformiadau diweddar eraill wedi cynnwys The Traveller yn Curlew River gan Britten (Opéra de Dijon), Kuligin yn Katya Kabanova gan Janácek (Opéra de Dijon), Emireno yn Ottone gan Handel (English Touring Opera), taith o uchafbwyntiau operatig gyda Scottish Opera, a Nikitch yn Boris Godunov gan Mussorgsky gyda’r Philharmonia Orchestra.
Yn ddiweddar, gwnaeth Johnny ei ymddagosiad cyntaf fel unawdydd yn y Wigmore Hall mewn rhaglen o weithiau gan Ravel, Schumann a Judith Weir, gyda James Baillieu yn cyfeilio. Mae e hefyd wedi perfformio gyda Joe Middleton yn y Leeds Lieder Festival, gyda William Vann yng Ngŵyl Machynlleth Julius Drake, yn yr Oxford Lieder Festival, a gyda Gary Matthewman ar gyfer Lied in London.