
Krystal S. Lowe
Mae Krystal S. Lowe – a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi’i lleoli yng Nghymru – yn ddawnsiwr, coreograffydd ac awdur sy’n creu gweithiau dawns a theatr ar gyfer y llwyfan, gofodau cyhoeddus, a phlatfformau digidol sy’n archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl, llesiant a grymuso mewn ffordd sy’n ei herio hi ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsyllu a newid cymdeithasol.
Mae ei chredydau diweddar yn cynnwys: ‘Whimsy’ a gomisiynwyd gan Articulture Cymru; ‘Rewild’, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolwyr y Green Man; ‘Daughters of the Sea’, a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Good Things to Come’ a gomisiynwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru, ‘Cymru yn yr Almaen 2021’, ynghyd â ‘Complexity of Skin’, a gomisiynwyd gan Space ar gyfer Culture in Quarantine y BBC.