Ksenia Ravvina
Cyfarwyddwr theatr, dramatwrg ac awdur cysyniadol a chanddi ddull amlddisgyblaethol o weithio sy’n cynnwys y celfyddydau gweledol, cerddorol a pherfformio.
Derbyniodd Ksenia Ravvina (Saint Petersburg, Rwsia) ei diploma fel hanesydd ym Mhrifysgol y Wladwriaeth yn Saint Petersburg. Bu’n astudio cyfarwyddo ar gyfer y theatr yn yr Academi Gerdd a’r Celfyddydau Perfformio yn Frankfurt. Yn 2010 enillodd y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau am y ddrama White Nights yn yr International Dostoyevsky Chamber Festival, Staraya Russa, Rwsia. Yn nhymor y gaeaf 2014/2015 dechreuodd astudio am radd Meistr mewn Astudiaethau Theatr Cymhwysol ym Mhrifysgol Justus Liebig, Gießen, lle bu’n gweithio ar brosiectau golygfaol gyda Heiner Goebbels, Walid Raad, a Bojana Kunst ymysg eraill. Bu Ksenia Ravvina yn creu perfformiadau ar lwyfannau yn yr Almaen a Rwsia, yn cynnwys prosiectau ar gyfer y Staatstheater Wiesbaden, y Theater und Orchester Heidelberg, Staatstheater Darmstadt, a gweithiau amrywiol mewn cydweithrediad â’r Künstlerhaus Mousonturm Frankfurt, y Frankfurt LAB a’r Schwankhalle yn Bremen. Cydweithiodd gydag artistiaid amrywiol megis Artyom Ignatiev, Anastasia Kadruleva (Theater Ballet Moscow), Katja Cheraneva, Alexandar Hadjiev, Theodore Huffman, Kristina Veit, Philip Venables, The MichaelDouglas Kollektiv ac eraill.
Dewiswyd ei gwaith Adolescence ar gyfer rhaglen breswyl “Campustriennale Materclass” y RUHRTRIENNALE 2016. Yn 2017, cyfarwyddodd Ksenia Ravvina y KulturTagJahr 2016/17 – Altana Cultural Foundation yn Ysgol Charles Hallgarten, Frankfurt. Enillodd ysgoloriaeth ar y cwrs hyfforddi preswyl rhyngwladol, “next generation workspace”, Theatr ar Gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc yn Frankfurt 2017/2018. Gyda’i gwaith diweddaraf, Makulatur, treuliodd gyfnod preswyl aml-ddinas yn fframiau’r Tanzplattform Rhein-Main 2017/2018. Yng ngwanwyn 2018 gweithiodd fel dramatwrg ac ymgynghorydd artistig mewn perfformiadau ar gyfer Dirty Deal Theatre Riga a ZUKT_#TANZ Mousonturm Frankfurt.