
Kyle Alonzo Legall
Mae crefft Kyle wedi ehangu i gynnwys sawl genre, o ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer animeiddiadau i greu ffilmiau, theatr a murluniau graffiti, yn ogystal â chynllunio a chreu ei gasgliad ei hun o ddillad graffiti. Mae Kyle wedi ysgrifennu, cyfarwyddo, cynllunio ac animeiddio pedair ffilm 2D byr ar gyfer Channel 4 ac S4C. Mae e hefyd yn creu fideos cerddoriaeth a chelf clawr ar gyfer bandiau lleol. In 2015, Kyle oedd artist preswyl cyntaf National Theatre Wales. Fel egin-gyfarwyddwr yn 2018/19, bu’n gweithio ar gynyrchiadau o Storm 1, 2 & 3, gan gydweithio gyda’r cyfarwyddwyr theatr Mike Brooks a Mike Pearson. Bellach mae’n aelod o banel gyda’r sefydliad ac yn parhau i hwyluso gweithdai gyda nifer o wahanol gymunedau, artistiaid, perfformwyr ac ymarferwyr yn ymwneud â pherfformio, creu cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a chreu golygfeydd. Yn 2017, bu Kyle yn ysgrifennu, cynllunio a chyfarwyddo ei ddrama ei hun, R.A.T.S. (Rose Against the System), a lwyfannwyd yng ngofod y to yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae e hefyd wedi cyfrannu at weithiau celf aml-blatfform ar gyfer arddangosfa sy’n archwilio etifeddiaeth terfysgoedd hil Caerdydd 1919.