Laurence Collier
Mae Laurence yn gweithio o Gaerdydd fel chwaraewr trwmped, athro, cyfansoddwr ac arweinydd band. Ac yntau’n hanu’n wreiddiol o Lanelli, treuliodd 4 blynedd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd, a syrthiodd mewn cariad â’r ddinas. Ers hynny bu’n aelod o’r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd, gan chwarae gyda bandiau lleol megis Afro Cluster, Dirty Alex a Slipped Disco; mae e hefyd yn rheoli ac yn arwain The Siglo Section Big Band. Mae The Siglo Section yn fand dynamig sy’n cynnig perfformiadau o gerddoriaeth yn amrywio o jazz traddodiadol i Hip-hop modern. Mae Laurence yn aelod gweithgar o’r gymuned, yn gwirfoddoli ar Fwrdd ‘Minty’s Gig Guide’, ac mae’n rhedeg gweithdai Datblygu Cerddoriaeth ym Mro Morgannwg.