London Sinfonietta
Mae’r London Sinfonietta yn un o’r prif ensemblau yn y byd ym maes cerddoriaeth gyfoes. Ar ôl ei sefydlu yn 1968, mae ymrwymiad y grŵp i greu cerddoriaeth newydd wedi arwain at gomisiynu 400 o weithiau a chyflwyno perfformiadau premiere cannoedd o rai eraill. Ei ethos heddiw yw i arbrofi’n gyson gyda chelfyddyd sy’n newid yn barhaus, gan dynnu at ei gilydd y goreuon o blith cerddorion, cyfansoddwyr ac artistiaid i greu gwaith sydd o’r radd flaenaf ac sydd hefyd yn cymryd risg. A hwythau â’u pencadlys yn Nghanolfan y Southbank ac yn Gysylltai Artistig yn Kings Place, gyda rhaglen brysur o deithiau ledled y Deyrnas Gyfunol a thramor, mae deunaw Prif Chwaraewr y London Sinfonietta ymhlith rhai o’r cerddorion gorau yn y byd.