Michael McCarthy
Bûm yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham a dilyn cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Theatr yn Theatr y Sherman, Prifysgol Caerdydd. Yn 1982, roeddwn yn gyfrifol am gyd-sefydlu Grŵp Opera Newydd Caerdydd gyda Michael Rafferty, ac arweiniodd hyn at greu Music Theatre Wales yn 1988. Ynghyd ag MTW, rhwng 1998 a 2012 roeddwn yn Gyfarwyddwr Artistig Operatoriet – stiwdio opera gyfoes ar gyfer Norwy – a rhwng 2007 a 2012 yn Ddramatwrg ar gyfer FIVE:15 –Operas Made in Scotland ar gyfer Opera’r Alban. Yn 2012 roeddwn yn arwain yr Academi Creu Opera yng Ngŵyl d’Aix-en-Provence, ac yn ystod yr 1980au roeddwn yn gyfarwyddwr adfywiad ar gyfer The Fires of London, cwmni dan arweiniad Peter Maxwell Davies.
Rwyf wedi cyfarwyddo dros 40 o operâu cyfoes, yn cynnwys bron y cyfan o gynyrchiadau MTW. Mae fy nghynyrchiadau eraill yn cynnwys llwyfannu Tosca a Nabucco, digwyddiadau awyr-agored ar raddfa fawr, a chynyrchiadau o La Traviata, Cosi fan Tutte, Il Re Pastore, Fidelio a Don Giovanni. Hefyd, Cinderella gan Peter Maxwell Davies ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a theledu S4C, The Lighthouse ar gyfer BBC2 TV, The Forbidden Hymn – opera gymunedol wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru – a The Feast of the Pheasant ar gyfer Glasgow 1990.
Enillais wobr am y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru am fy nghynhyrchiad premiere byd o The Trial gan Philip Glass, mewn cyd-gynhyrchiad rhwng MTW a’r Tŷ Opera Brenhinol. Enillodd fy nghynhyrchiad o Greek Wobr TMA am Gyflawniad Rhagorol mewn Opera. Cefais fy anrhydeddu ag MBE yn 2016.
Ers 1988 mae MTW wedi creu 39 o gynyrchiadau a chyflwyno 198 premiere byd. Bwriedir cynnal premiere ein cynhyrchiad byw nesaf, sef Violet by Tom Coult ac Alice Birch (cyd-gomisiwn a chyd-gynhyrchiad gyda Britten Pears Arts a lwyfennir mewn cysylltiad â’r London Sinfonietta), ym mis Mehefin 2022.
Gwobrau: yn 2020, enillodd Philip Venables wobr IVOR am Weithiau Llwyfan am Denis & Katya a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd gan MTW yn gynnar yn 2020.
Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallech gynnig cefnogaeth i Music Theatre Wales, anfonwch ebost at ein Cyfarwyddwr – Michael McCarthy, michael@musictheatre.wales