Michel de Souza
Ac yntau wedi ei eni yn Brasil, enillodd Michel de Souza y Maria Callas Vocal Competition yn São Paulo a’r Margaret Dick and Ye Cronies Competition yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Alban.
Aeth yn ei flaen i ymuno gyda’r Jette Parker Young Artists Programme yn y Royal Opera Covent Garden. Mae e hefyd yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau, yn cynnwys gyda’r BBC Scottish Symphony Orchestra yn y Proms, gyda’r L’Orchestre National de Lyon, yr Orchestra of Scottish Opera a’r Theatro Municipal yn São Paulo. Brasil.
Roedd yn Egin Artist yn Opera’r Alban, lle roedd ei rannau’n cynnwys Escamillo yn Carmen, Forester yn Cunning Little Vixen a Marullo yn Rigoletto. Yn y ROH Covent Garden ymddangosodd fel Schaunard yn La Boheme, Morales yn Carmen, Flemish Deputy yn Don Carlo, y Capten yn Eugene Onegin, Angelotti yn Tosca, a Mandarin a Ping yn Turandot.
Mae e wedi perfformio rhannau Schaunard yn La Boheme, Baron Grog yn La Grande Duchesse de Gerolstein, Leuthold yn Guillaume Tell a Starveling yn A Midsummer Nights Dream yn y Grand Théâtre de Genève, ac yn y Grange Park Opera canodd ran Sonora yn La Fanciulla del West a Grand Prêtre yn Samson et Dalila.
Yn Ne America mae e wedi perfformio rhannau Guglielmo yn Così fan Tutte yn y Teatro Argentino de la Plata, Belcore yn L’Elisir d’Amore a Conte Robinson yn Il Matrimonio Segreto yn y Theatro São Pedro, Papageno yn Die Zauberflöte yn y Theatro Municipal de São Paulo, a Crown yn Porgy and Bess yn y Grande Teatro do Palácio das Artes de Belo Horizonte.