Nigel Lowery
Derbyniodd Nigel Lowery ei hyfforddiant yn Llundain, yn y Central St Martin’s School of Art and Design.
Ar ôl iddo raddio, roedd ei waith cynnar fel cynllunydd yn cynnwys Der Ring Des Nibelungen ar gyfer Covent Garden, Blond Ekbert (ENO), Inquest of Love (Brwsel) a Giulio Cesare yn Munich.
Bu’n cyfarwyddo am y tro cyntaf yng ngŵyl Batignano, a dilynwyd hynny’n fuan gan Il barbiere di Siviglia ar gyfer The Royal Opera a Hänsel und Gretel ar gyfer Theater Basel. Mae ei gynyrchiadau eraill yn cynnwys Rinaldo Tito L’italiana yn Algieri, Staatsoper yn Berlin, Figaro yn Stuttgart, a Candide ac Akhnaten yn Antwerp.
Mae e wedi gweithio’n agos ar nifer o operâu gyda’r coreograffydd Amir Hosseinpour – yn cynnwys Orphée et Eurydice yn Munich a Platée yn Amsterdam.
Gwelwyd ei gynyrchiadau mewn nifer o Wyliau Cerdd, yn cynnwys Aldeburgh, Barcelona, Berlin a Chaeredin.