Patrick Terry
Mae Patrick Terry yn aelod o’r Jette Parker Young Artists Programme yn y Royal Opera House, Covent Garden. Enillodd y Loveday Song Prize yng Ngwobrau Kathleen Ferrier 2017, yr Ail Wobr yn yr Handel Singing Competition 2019, ac mae’n un o Artistiaid y Samling Artist Programme. Cafodd Patrick Terry ei eni a’i fagu yn Janesville, Wisconsin.
Enillodd ei radd B. Mus. o Brifysgol Minnesota Twin Cities, lle bu’n astudio gydag Adriana Zabala, a graddiodd o’r Royal Academy of Music, Llundain – lle bu’n astudio gyda Caitlin Hulcup a Michael Chance ar y cwrs Opera, gyda chefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Josephine Baker ac Ysgoloriaeth John J. Adams – yn haf 2018.
Ac yntau wedi ei ddewis ar gyfer y Leeds Lieder Young Artists Festival 2018, mae ei lwyddiannau pellach mewn cystadlaethau yn cynnwys ennill yr Ail Wobr yn y Joan Chissell Schumann Lieder Competition 2015, ennill y Maureen Lehane Vocal Award 2014, ac ennill y Richard Lewis/Jean Shanks Award 2017. Gyda’r Royal Academy Opera, canodd The Refugee yn Flight a Ruggiero yn Alcina.
Mae ei rannau operatig wedi cynnwys The Boy/Angel 1 yn Written on Skin gyda’r Melos Sinfonia, Oberon yn A Midsummer Night’s Dream ar gyfer y Chicago Summer Opera, Rosencrantz yn Hamlet gan Brett Dean ar gyfer Glyndebourne On Tour, a’r brif ran yn Teseo gyda La Nuova Musica yn y London Handel Festival 2018. Ymhlith yr uchafbwyntiau o ran cyngherddau y mae ei ymddangosiad yn y Wigmore Hall gydag Imogen Cooper.
Y tymor hwn, bydd yn teithio i Japan i ymddangos yn Le Promesse (Cyngerdd Gala gan yr Young Opera Singers Tomorrow of the World) yn y New National Theatre, Tokyo, ac yn canu rhan Arsace yn Berenice ac Artemis yn Phaedra gan Hans Werner Henze. Yn ystod 2018/2019, bydd hefyd yn dychwelyd i’r Wigmore Hall ar gyfer Heroes and Villains, yn ymddangos yn Beyond Jerusalem: The Life and Times of Sir Charles Hubert Parry yn y London Song Festival, ac yn canu Ruggiero yn Alcina gyda La Nuova Musica.